Skip to content

Plant!

Dolenni perthnasol

Prif elusen y DU sy’n gwbl ymroddedig i amddiffyn ein treftadaeth o goed brodorol.
Y newid yn yr hinsawdd yw un o’r sialensiau pwysicaf sy’n wynebu’r byd - ac un y mae angen i ni i gyd fynd i’r afael â hi.
Atebion i'ch cwestiynau am "Plant!", gan gynnwys a oes angen i chi ofyn am gael plannu coeden ar ran eich plentyn?
Ein nod yw rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae Plant! yn brosiect i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru drwy blannu coeden, a chreu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Autumn - 300x200Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud adduned i blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru o 1 Ionawr 2008 ymlaen. Bydd hyn yn helpu i greu coedwig genedlaethol o goed brodorol mewn sawl safle yng Nghymru.

Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer y cynllun gan Natalie Vaughan, merch ysgol 11 oed o Gaerdydd, a ysgrifennodd at Sue Essex, ei Haelod Cynulliad, gan awgrymu y byddai plannu coeden ar gyfer pob plentyn a gâi ei eni neu ei fabwysiadu yn ffordd dda o wneud i bobl ifanc feddwl am eu hamgylchedd a'u rôl hwy yn y gwaith o'i ddiogelu.

Plannu coed yn Coed Ysgubor Wen

Bydd y prosiect hefyd yn helpu i gryfhau'r berthynas rhwng pobl Cymru a'u hamgylchedd ac yn gwella cynefinoedd brodorol, a bydd yn gyfle i rieni wneud eu rhan i feithrin planed iach lle mae eu plentyn a'u coeden yn tyfu. Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif yn nodi ble mae eu coeden hwy wedi cael ei phlannu. Drwy blannu coeden i nodi genedigaeth neu achlysur mabwysiadu pob plentyn yng Nghymru, bydd Plant! yn creu coetiroedd newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cynllun Llywodraeth Cymru yw'r prosiect Plant! ac mae'n cael ei redeg ar ei rhan gan Goed Cadw a'r Cyfoeth Naturiol Cymru.