Skip to content

Coed Cefn Ila

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
plant yn Cefn Ila
Mae Cefn Ia ger Brynbuga, Sir Fynwy.

Ynghylch Cefn Ila

Prynwyd Cefn Ila gan Goed Cadw yn 2007.  Yn wreiddiol, roedd yma 28.77 hectar (72 erw) o laswelltir wedi’i wella, a bydd y gwaith o greu coetir newydd yn gwella’r dirwedd tra’n diogelu’r golygfeydd agored ysblennydd dros gefn gwlad tonnog Dyffryn Wysg.  Saif dwy goeden dderw hynafol yng nghanol y coed sydd newydd gael eu plannu a bydd y rhain, ynghyd â’r coetir a’r gwrychoedd o gwmpas, yn denu bywyd gwyllt cyfoethog wrth i’r coetir ddatblygu.

Dyluniwyd y coetir gyda chymorth y gymuned leol, ac mae’r bobl leol, ynghyd â phlant o ysgolion lleol wedi helpu i blannu nifer o goed ar y safle.

Plannwyd 23,844 o goed i gyd ar y safle fel rhan o’r prosiect Plant! Cefn Ila oedd y goetir Plant! gyntaf, ac yn 2013 dathluodd y coetir newydd yma ei phumed benblwydd.

I gael manylion pellach am y safle ewch i Coed Cymru (dolen allanol).

Cyfarwyddiadau i Gefn Ila

O Frynbuga, cymerwch y ffordd i Langybi. Wrth i chi ddod i mewn i Lanbadog, cymerwch y tro cyntaf ar y dde (gyferbyn â’r eglwys) a dilynwch y ffordd hon.  Ar ôl i chi fynd tua ¾ milltir, fe welwch fwthyn ar y dde; trowch i’r dde i fyny’r lôn. Mae’r fynedfa i Gefn Ila tua 100 metr i fyny’r lôn, lle ceir maes parcio bach.  

Gallwch hefyd fynd i Goed Cefn Ila ar hyd y llwybr troed o Frynbuga.

Os oes gennych fap Arolwg Ordnans, gallwch ddod o hyd i’r coed yng nghyfeirnod grid SO363005.

Os byddwch yn mynd ar eich beic, gallwch gyrraedd Coed Cefn Ila drwy ddefnyddio’r rhwydwaith beicio cenedlaethol.  Mae’r ffordd sy’n mynd heibio’r safle ar Lwybr Beicio Rhanbarthol 30.  Bydd trenau o Gaerdydd, Abertawe a’r Fenni yn mynd â chi i Gasnewydd neu Gwmbrân, ac yna bydd yn rhaid i chi gymryd bws i Frynbuga.

Hygyrchedd

Fel pob safle sy’n eiddo i Goed Cadw, mae Cefn Ila ar agor i bawb ymweld ag ef i gael profiad hamdden anffurfiol di-dâl, 365 diwrnod y flwyddyn.  Mae’r safle’n cynnwys nifer o gaeau ar lethr bach a llwybr pob gallu.