Skip to content

Coedwig y Plant! Cwm Garw

Dolenni perthnasol

Mae'r goedwig a'r parciau cyfagos ar agor trwy gydol y flwyddyn.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Cerdded Cwm Garw
Ardal gloddi fach oedd Nant Garw ym mwrdeisdref Sir Oen-Y-Bont Ar Ogwr o'r blaen. (Canol Morgannwg gynt.)

Ynglŷn â Choedwig y Plant! Cwm Garw

Cyn ardal lofaol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Morgannwg Ganol gynt) yw Cwm Garw. Mae tirwedd y Cwm wedi newid yn sylweddol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o fod yn bentref glofaol diwydiannol i fod yn gartref i bobl sy'n cymudo i weithio yn y diwydiannau yng nghyffiniau Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r Cyngor Cymunedol, gyda chyllid unwaith eto gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, wedi datblygu parc coetir o'r enw Parc Calon Lân er cof am Daniel James, a ysgrifennodd eiriau ei emyn enwog ym Mlaengarw tua 1890.  Mae cerflun i gofio am ei waith wedi'i leoli yn y parc.

Mae Coedwig y Plant Cwm Garw a'r cyffiniau wedi'i lesio gan Gyngor Cymuned Cwm Garw oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'r coetir hwn yn cynnwys 7.5 ha o dir ac mae cyfanswm o 18,000 o goed llydanddail brodorol wedi'u plannu yng ngaeaf  2011. Mae wyth o goetiroedd ar hyd y cwm, sy'n helpu i gysylltu'r parciau a'r tirweddau sydd eisoes yn bodoli.

Cafodd Coedwig y Plant Cwm Garw ei henwi gan blant ysgol gynradd leol, a cafodd ei hagor yn swyddogol ym mis Mai 2011 gan Huw Edwards o'r BBC.

Mae map a llyfryn llwybr gweithgarwch am ddim ar gael ar gyfer eich ymweliad yng nghanolfan ymwelwyr Parc Calon Lân.

Cyrraedd Coedwig y Plant! Cwm Garw

O Gyffordd 36 yr M4 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dilynwch yr arwyddion brown i dwristiaid i Gwm Garw (Pontycymer a Pharc Calon Lân ym Mlaengarw)

Os ydych chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus:
Cymerwch fws rhif 12 (Gwasanaeth Bysiau First Cymru) o Orsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr i Bontycymer a Blaengarw

Hygyrchedd

Mae'r goedwig a'r parciau cyfagos ar agor trwy gydol y flwyddyn.  Mae lle i tua 30 o geir ym Maes Parcio Calon Lân.  Gellir dod o hyd i gyfleusterau cyhoeddus a chaffi o fewn pellter cerdded byr o'r Maes Parcio.