Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad. Os nad yw'r gair neu derm yma, yna cysylltwch gyda ni a ddarparwn ddifiniad a'i gynnwys yma.
Gallwch e-bostio eich ymholiad i: materion-gwledig@cymru.gsi.gov.uk.
A
Achos o TB - Anifail y cafwyd bod tiwbercwlosis gwartheg arno mewn buches a oedd cyn hynny'n fuches heb TB.
Adroddiadau Anderson– Cynhaliodd Syr Iain Anderson ymchwiliad i Glwy’r Traed a’r Genau 2011. Gofynnwyd iddo gan Lywodraeth Prydain i gadeirio adolygiad o ymateb y Llywodraeth i’r achos o Glwy’r Traed a’r Genau a ddigwyddodd yn 2007.
AHVLA – Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol. Cafodd yr asiantaeth ei ffurfio ar 1 Ebrill 2011 yn sgil uno Iechyd Anifeiliaid a’r Asiantaeth Labordai Milfeddygol. Yr AHVLA sy’n helpu i roi polisïau iechyd a lles anifeiliaid ar waith yng Nghymru.
Anifail anwes – anifeiliaid domestig fel cŵn a chathod sy’n cael eu cadw i fod yn gwmni.
Anifail carnau hollt – Anifail sydd â charnau sydd wedi’u hollti’n ddwy. Anifeiliaid fel moch, defaid, ceirw a gwartheg.
Anifail cnoi cil – yn cynnwys gwartheg, defaid, geifr, byfflos, ceirw, jiraffod, antilopiaid a chamelod.
Anifail gwyllt – Anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cadw fel arfer fel anifeiliaid dof ym Mhrydain.
Anifail sydd wedi adweithio - Anifail sydd wedi methu'r prawf croen tuberculin.
Anifail sy’n gallu dal clefyd – Anifeiliaid o rywogaeth benodol sy’n gallu cael ei heintio’n naturiol neu’n artiffisial gan glefyd.
Archwiliad ar ôl marw - Archwilio'r corff ar ôl i'r anifail farw er mwyn gweld beth achosodd iddo farw.
Arwyddion clinigol – Arwydd y gellir sylwi arno o gyflwr meddygol.
Asesiad gan filfeddyg o’r risg – Asesiad i fesur y risg y gallai clefyd heintio poblogaeth o anifeiliaid neu o’r newid yn lefel y clefyd mewn poblogaeth trwy edrych ar y boblogaeth o anifeiliaid sydd mewn perygl, natur y clefyd yn ogystal â’r ffactorau rheoli ac amgylcheddol allai ddylanwadu arnyn nhw. Rhoddir ystyriaeth hefyd i’r ffactorau sy’n lleihau’r risg.
Asesiad Stoc - Dadansoddiad gwyddonol o gyflwr stoc pysgod a buddiannau’r pysgotwyr a’r proseswyr bwyd môr sy’n defnyddio’r stoc.
Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau - Yr asiantaeth sy’n gyfrifol am weithredu polisi’r llywodraeth ar ddiogelwch morol yn y DU sy’n ceisio sicrhau nad yw pobl yn colli eu bywydau ar yr arfordir a’r môr.
Awtoclafio – stemio gwastraff o dan bwysedd a’i ‘goginio’ i ladd y bacteria sydd ynddo.
B
Bioddiogelwch – Yr hyn sy’n cael ei wneud i osgoi cyflwyno clefyd i boblogaeth y mae rhywun yn ceisio’i amddiffyn.
Biomas Stoc sy’n Silio - Cyfanswm pwysau’r pysgod o fewn stoc sy’n ddigon hen i silio.
Buches gaeëdig - Buches lle na chaiff stoc o'r tu allan ymuno â hi h.y. y daw'r holl wartheg cadw o'r fuches ei hun.
C
Camelid - Aelod o deulu'r camel h.y. lama, alpaca, gwanaco a vicuña sy'n dod o Dde America.
Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru – Yr ECC(W) sy’n gyfrifol am gyd-drefnu’r cyngor ar reoli clefydau o safbwynt Cymreig a rheoli canlyniadau ehangach achos o glefyd.
Canolfan Genedlaethol Rheoli Clefydau (NDCC) – Trefnir ymateb Prydain i achos o glefyd gan yr NDCC.
Canolfan Rheoli Clefydau Lleol (LDCC) – Bydd yr AHVLA yn sefydlu LDCC i ddelio ag achos o glefyd ym Mhrydain.
Clefyd a ledaenir gan bryfed – Clefyd sy’n cael ei ledaenu gan bryfed fel gwybed, trogod ac ati.
Clefyd egsotig – Nid yw clefyd egsotig yn bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ond mae’n bod mewn gwledydd eraill.
Clefyd endemig – Clefydau y gwyddys am eu bodolaeth mewn poblogaeth o bethau byw mewn ardal benodol.
Clefyd feirysol – Feirws.
Clefyd hysbysadwy – Clefyd y mae’n rhaid dweud wrth yr awdurdodau milfeddygol (AHVLA) amdano os amheuir bod anifail wedi’i heintio ganddo.
Cwota - Y nifer neu’r pwysau mwyaf o bysgod y mae modd eu glanio’n gyfreithlon mewn cyfnod o amser. Gall fod yn berthnasol i’r bysgodfa gyfan neu i gyfran pysgotwr unigol o dan system Dyrannu Cwotâu Sefydlog.
Cyfanswm y Ddalfa a Ganiateir - Y ddalfa flynyddol a argymhellir ar gyfer rhywogaeth neu grŵp o rywogaethau Mae’r cyngor rhanbarthol yn pennu’r Cyfanswm ar sail ystod y ddalfa fiolegol sy’n dderbyniol.
Cyfanswm y Pysgod Marw - Dull o fesur nifer y pysgod sy’n marw yn sgil pysgota ac achosion naturiol. Gall cyfanswm nifer y pysgod sy’n marw amrywio rhwng rhywogaethau.
Cyfnod magu’r clefyd – Yr amser rhwng dod i gysylltiad â chlefyd a’r amser pan welir arwyddion clinigol y clefyd.
Cymhareb Silio Bosibl - Nifer yr wyddau a allai gael eu cynhyrchu gan bysgodyn cyfartalog sy’n recriwtio i stoc a gaiff ei bysgota wedi’i rannu gan nifer yr wyau a allai gael eu cynhyrchu gan bysgodyn cyfartalog o fewn stoc na chaiff ei bysgota.
Cynaeafu - Cyfanswm y pysgod a gaiff eu dal, mewn pwysi, ac a gedwir o ardal dros gyfnod o amser. Sylwch fod gwahaniaeth rhwng glaniadau, dalfa a chynaeafu.
Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid – Gall fod yn unrhyw beth sy’n dod o anifail.
Cynllun Rheoli Pysgodfa - Cynllun ar gyfer cyflawni targedau rheoli penodedig ar gyfer pysgodfa. Mae’n cynnwys data, dadansoddiadau a mesurau rheoli ar gyfer pysgodfa.
Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf - Y ddalfa fwyaf ar gyfartaledd y mae modd ei chymryd yn barhaus (yn gynaliadwy) o stoc o dan amodau amgylcheddol cyfartalog. Caiff hyn ei ddefnyddio’n aml fel targed rheoli.
Cynnyrch Mwyaf - Y lefel cynaeafu ar gyfer rhywogaeth sy’n cyflawni’r manteision cyffredinol gorau, gan gynnwys ystyriaethau economaidd, cymdeithasol a biolegol. Mae gwahaniaeth rhwng cynnyrch mwyaf a chynnyrch cynaliadwy mwyaf gan nad yw’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf ond yn ystyried bioleg y rhywogaethau.
D
Da Byw – Anifeiliaid domestig fel gwartheg a defaid sy’n cael eu cadw neu eu magu fel arfer am eu cig neu eu cynnyrch.
Dalfa - Yn cynnwys unrhyw weithgaredd sy’n arwain at ladd unrhyw bysgod neu ddod ag unrhyw bysgod byw ar long/cwch, ond nid yw’n gyfyngedig i hyn.
Dalfa Fesul Uned o Ymdrech - Nifer y pysgod a gaiff eu dal o ardal dros gyfnod penodol o amser. Gan amlaf mae ymdrech yn golygu cyfuniad o’r math o gyfarpar, maint y cyfarpar a’r amser a dreulir yn defnyddio’r cyfarpar. Gallai cyfran o ddalfa gael ei gwaredu.
Data sy’n Ddibynnol ar Bysgodfa a Data sy’n Annibynnol ar Bysgodfa - Caiff data sy’n ddibynnol ar bysgodfa eu casglu ynghylch pysgodfa gan bysgotwyr masnachol neu bysgotwyr hamdden a delwyr bwyd môr. Caiff data sy’n annibynnol ar bysgodfa eu casglu gan wyddonwyr sy’n dal y pysgod eu hunain yn ystod ymchwil gwyddonol, yn hytrach na’u bod yn dibynnu ar bysgotwyr a delwyr bwyd môr.
Dyfroedd Llonydd - Rhan wastad neu lefel o ffrwd lle na cheir unrhyw lif na mudiant o’r cerrynt a lle y mae’r dŵr yn llonydd.
Dyraniad/Cwota - Y modd y dosberthir y cyfle i bysgota ymysg grwpiau o ddefnyddwyr neu unigolion. Yn aml mae cyfran grŵp defnyddiwr yn seiliedig ar gyfansymiau cynaeafu hanesyddol.
Y Ddalfa Fiolegol a Ganiateir - Term a gaiff ei ddefnyddio gan asiantaeth reoli sy’n cyfeirio at ystod dalfa a ganiateir ar gyfer rhywogaethau neu grŵp o rywogaethau.
E
Epidemioleg – Astudiaeth o batrymau clefyd neu gynhyrchiant neu les o fewn poblogaeth o anifeiliaid a’r ffactorau all ddylanwadu ar y patrymau hynny.
F
Fector – Yr hyn sy’n cario clefyd.
Ff
Ffermio Molysgiaid y Môr a Ffermio Pysgod Môr - Yn ymwneud â moramaethu sy’n agwedd arbenigol ar ddyframaethu sy’n golygu ffermio organebau morol ar gyfer bwyd a chynnyrch eraill mewn rhan amgaeedig o’r môr, mewn tanciau, pyllau neu redfeydd sy’n llawn dŵr y môr.
Ffermydd Pysgod Dŵr Croyw - Ffermio organebau dyfrol fel pysgod, cramenogion, molysgiaid a phlanhigion dyfrol. Mae dyframaethu yn golygu ffermio poblogaethau dŵr croyw a dŵr hallt o dan amodau a gaiff eu rheoli.
Ffliw’r adar – Clefyd feirysol heintus iawn sy’n effeithio ar lawer o fathau gwahanol o adar.
G
Genweirio - Dull o bysgota lle y caiff "ongl" (bachyn pysgota) ei gysylltu â llinyn pysgota a gwialen bysgota. Mae gan y rhan fwyaf o wialenni pysgota rîl bysgota ac mae modd cuddio’r bachyn gydag abwyd neu fflôt.
Genweirio Hamdden - Caiff genweirio hamdden ei ddisgrifio’n aml fel math o chwaraeon ac mae gofyn yn aml i bysgotwyr ddefnyddio technegau pysgota dal a rhyddhau. Mae terfynau maint yn berthnasol i rai rhywogaethau mewn sawl lleoliad, sy’n golygu bod yn rhaid i bysgod sy’n llai a/neu’n fwy na maint arbennig gael eu rhyddhau, yn unol â’r gyfraith.
Glaniadau - Sawl pwys o bysgod a gaiff eu dadlwytho mewn doc gan bysgotwyr masnachol neu a gaiff eu cludo i’r lan gan bysgotwyr hamdden at ddefnydd personol. Caiff glaniadau eu cofnodi yn y mannau lle y caiff pysgod eu cludo i’r lan. Sylwch fod glaniadau, dalfa a chynaeafu yn diffinio gwahanol bethau.
Gorbysgota - Cynaeafu ar gyfradd sy’n cyfateb i’r hyn a fydd yn bodloni’r targed rheoli neu ar gyfradd uwch. Bernir bod stoc neu yn cael ei orbysgota pan fydd cyfradd marwolaeth pysgod yn mynd y tu hwnt i’r trothwy uchaf ar gyfer marwolaeth pysgod.
H
Hysbysiadau Pysgodfeydd Rhynglanwol - Hysbysiadau sy’n cyfyngu ar weithgarwch pysgota o fewn yr ardal rhwng y tir a’r môr a gaiff ei gorchuddio gan ddŵr pan fo’r llanw’n uchel ac sy’n glir pan fo’r llanw’n isel.
I
Is-ddeddfau - Darparu gwybodaeth fanwl am y rheolau sy’n berthnasol pan gaiff pysgota ei ganiatáu ar adegau penodol.
M
Marwolaeth Naturiol - Dull o fesur cyfradd y pysgod sy’n marw o achosion naturiol. Mae cyfraddau marwolaeth naturiol yn amrywio rhwng rhywogaethau.
Marwolaethau Pysgod - Dull o fesur cyfradd y pysgod a gaiff eu lladd drwy bysgota. Mae cyfraddau derbyniol o farwolaethau pysgod yn amrywio rhwng rhywogaethau.
Meysydd Pysgota - Caiff meysydd eu defnyddio gan amlaf ar gyfer pysgota eog. Caiff afonydd eog unigol eu rhannu’n adrannau neu’n feysydd unigol yn ôl eu perchenogaeth.
Microsglodyn – Dyfais electronig unigryw sy’n cael ei roi yn yr anifail i’w adnabod.
Milhaint (Zoonotic disease) – Clefyd sy’n gallu taro pobl ac anifeiliaid.
Mycobacterium bovis - Y bacteriwm sy'n achosi tiwbercwlosis gwartheg.
P
Pathogen – Cyfrwng cynhyrchu clefyd, fel feirws, bacteriwm neu ficrorganeb arall.
Prawf gwaed Gamma Interferon - Prawf gwaed mewn labordy, ar gyfer cael hyd i diwbercwlosis gwartheg.
Pysgodfeydd Mewndirol - Mae’r term uchod yn cyfeirio at leoliadau lle y mae gweithgarwch pysgota yn mynd rhagddo a lle y caiff pysgod eu cymryd o fewn dŵr ffres er enghraifft o lynnoedd, pyllau, afonydd a ffrydiau.
Pysgota Bras mewn Afonydd - Golyga pysgota bras bysgota am bysgod bras, sef y mathau o bysgod dŵr croyw yn hytrach na physgod ‘hela’ (eog a brithyll) ac maent yn cynnwys cochgangod, cerpynnod, barfogion, merfogiaid, cochiaid a brwyniaid.
R
Recriwtio - Nifer y pysgod a gaiff eu hychwanegu at y stoc sydd ar gael bob blwyddyn yn sgil twf a/neu fudo i mewn i’r ardal bysgota. Er enghraifft, nifer y pysgod sy’n tyfu ac sy’n agored i gael eu dal gan y cyfarpar pysgota mewn blwyddyn fyddai’r nifer a fyddai’n cael eu recriwtio i’r boblogaeth sydd ar gael i’w physgota yn y flwyddyn honno. Caiff y term hefyd ei ddefnyddio ar gyfer cyfeirio at nifer y pysgod o’r un flwyddyn sy’n cyrraedd oedran penodol.
Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy - Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd i waredu rhwystrau a gwella dulliau mynediad ar gyfer pysgod mudol o fewn afonydd.
S
Safonau Bioddiogelwch - Mesurau ataliol sy’n ceisio lleihau risg trosglwyddo clefydau heintus wrth weithredu o fewn y bysgodfa.
Sensitifrwydd - Gallu prawf i ddangos yn gywir a yw anifail wedi'i heintio neu beidio. Wedi'i fynegi fel arfer fel canran.
Sgil-ddalfa - Cynaeafu pysgod neu bysgod cregyn heblaw am y rhywogaethau y gosodwyd y cyfarpar pysgota ar eu cyfer. Caiff ei alw’n ddalfa ddamweiniol yn aml. Caiff rhai o’r pysgod eu cadw i’w gwerthu.
Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid – Carcasau anifeiliaid, rhannau o garcasau neu gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.
Strategaeth ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy Dyframaethu yn yr UE - Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd strategaeth ag iddi dair prif elfen sef i) helpu’r sector i ddod yn fwy cystadleuol drwy ymchwil a datblygiad, ii) cynnal dulliau cynhyrchu a safonau yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid sy’n garedig i’r amgylchedd a iii) sicrhau amgylchedd sy’n garedig i fusnesau ar lefel leol, genedlaethol ac Ewropeaidd.
Stoc - Grŵp o bysgod sydd gan amlaf yn seiliedig ar berthynas genetig, dosbarthiad daearyddol a phatrymau symud.
T
Teulu’r ceffyl – Ceffylau, asynnod a sebraod.
Teulu’r gwartheg – Gwartheg, beison a byfflo.
Trothwy Isaf ar gyfer Maint Stoc - Lefel biomas a ddefnyddir gan reolwyr pysgodfeydd i asesu a yw stoc pysgod yn cael ei orbysgota. Os bydd biomas stoc pysgod yn mynd yn is na’r trothwy bernir bod stoc yn cael ei orbysgota.
Trothwy Uchaf ar gyfer Marwolaethau Pysgod - Lefel benodedig a ddefnyddir gan reolwyr pysgodfeydd ar gyfer asesu a yw stoc pysgod yn cael ei orbysgota. Os bydd cyfraddau marwolaethau pysgod yn mynd y tu hwnt i’r trothwy bernir bod stoc yn cael ei orbysgota.
Trydedd wlad – Gwlad o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd
Y
Ymdrech - Yr amser a’r pŵer pysgota a ddefnyddir ar gyfer cynaeafu pysgod. Mae pŵer pysgota yn cynnwys maint y cyfarpar, maint y cwch a marchnerth.