Skip to content

Grantiau ac ariannu

Dolenni perthnasol

Ymgynghoriad sy’n ceisio safbwyntiau i sicrhau bod arian grant ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant rhwng 2013-16 yn sicrhau canlyniadau gwirioneddol.
Nod y grant safleoedd yw gwella ansawdd bywyd i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.



Yr Is-adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n gyfrifol am weinyddu nifer o grantiau a ffrydiau ariannu.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldebau
  • y Grant Cynhwysiant
  • Grant Sipsiwn a Theithwyr (Safleoedd Newydd ac Adnewyddu)
  • ariannu digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Rhaglen Newydd Arfaethedig o Grantiau ar gyfer

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried strwythur grant y dyfodol o ran cydraddoldebau a chynhwysiant ar ôl i'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb a'r Grant Cynhwysiant presennol ddod i ben. Rydym wedi ymgynghori ar fframwaith grant newydd arfaethedig ac mae crynodeb o'r ymatebion a ddaeth i law ar gael ar y dudalen "Dogfen Ymgynghori". Mae hon ar gael i'w lawrlwytho dan "Dolenni perthnasol".

Yn wreiddiol roeddem wedi rhagweld y byddai'r fframwaith grant newydd yn cael ei ddyfarnu o fis Hydref 2013, gan wahodd ceisiadau ym mis Ebrill. Mae'r Gweinidog dros Gymunedau a Threchi Tlodi, sy'n gyfrifol am gydraddoldebau a chynhwysiant, wedi penderfynu oedi na fydd y fframwaith grantiau newydd yn cael ei lansio am chwe mis arall, i gychwyn ym mis Ebrill 2014. Bydd hyn yn galluogi'r Gweinidog i roi ystyriaeth i gyllid grant ar draws y portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi, yn ogystal â chaniatáu mwy o ymgysylltiad â'r trydydd sector ar ddyfodol y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant. Byddwn yn darparu amserlen cyn bo hir a rhagwelwn y byddwn yn gwahodd ceisiadau am gyllid dan y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn ystod yr haf.

Yn flaenorol, roedd y sefydliadau a gafodd gyllid gan y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb a'r Grant Chynhwysiant yn 2012-13 wedi cael cynnig estyniad i'w cyllid hyd at fis Medi 2013. Mae'r Gweinidog dros Gymunedau a Threchi Tlodi wedi cytuno i ymestyn y cyllid grant presennol am chwe mis pellach i gynnwys y cyfnod rhwng Hydref 2013 a Mawrth 2014. Mae hyn yn amodol ar gytuno ar amcanion priodol, ac yn amodol ar delerau ac amodau cyfredol.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013

07/03/13
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael trwy Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ar gyfer digwyddiadau sy’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013.
 

Y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb 2010/11

16/05/11
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo, i annog ac i hwyluso gwell cydraddoldeb, gan sicrhau bod y polisïau a ddatblygir gennym fel llywodraeth, ynghyd â’n partneriaid, yn cynnig gwell gwasanaethau i bob dinesydd.
 

Ystyried canfyddiadau Is-bwyllgor Cyllido a Chymdymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

16/05/11
Mewn cysylltiad â chŵyn a wnaed o dan y cod ymarfer ar gyfer ariannu'r Trydydd Sector.
 

Cronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb - Cyflwyniad am arian pontio ychwanegol

16/05/11
Nid yw’r Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gallu cymeradwyo’r cyflwyniad am gyllid trosiannol ychwanegol yn dilyn cais aflwyddiannus o dan y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb.
 

Dyfarnu cyllid - Cronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb 2010 - 2013

16/05/11
Mae’r Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cytuno i ddyfarnu cyllid o dan Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb 2010-13.
 

Dyfarnu cyllid - Grant Cynhwysiant 2010 - 2013

16/05/11
Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cytuno i ddyfarnu cyllid o dan y Grant Cynhwysiant 2010-13.