Skip to content

Y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb 2010/11

Dolenni perthnasol

Mae’r Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cytuno i ddyfarnu cyllid o dan Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb 2010-13.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo, i annog ac i hwyluso gwell cydraddoldeb, gan sicrhau bod y polisïau a ddatblygir gennym fel llywodraeth, ynghyd â’n partneriaid, yn cynnig gwell gwasanaethau i bob dinesydd.

I gydnabod hyn, mae arnom eisiau defnyddio arian y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb i ariannu prosiectau a/neu mudiadau sy’n ceisio bodloni anghenion y rhai sy’n wynebu gwahaniaethu lluosog yn eu bywydau bob dydd; i alluogi pawb i gyflawni eu potensial drwy leihau a/neu ddileu rhwystrau; drwy gymryd rhan wrth wneud polisïau a’u galluogi i gael gafael ar wasanaethau y byddai’n anodd iddynt eu cyrraedd fel arall.

Ar 6 Tachwedd 2009, caeodd cylchoedd ceisiadau 2010/11 ar gyfer y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb. Ar 14 Chwefror 2010, cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau y cyllid a wobrwywyd o dan y cynllun hwn.