Skip to content

Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol ar gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym wedi ymrwymo i helpu i chwalu’r rhwystrau ar gyfer y 785,000 o oedolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru.
Mae hwn yn ffigur llai na'r 900,000 a nodwyd yn nogfen Ymgynghori'r Fframwaith Cynhwysiant Digidol. Er mwyn dangos yr ymrwymiad hwn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu rhoi arweiniad strategol clir, ond mae'n cydnabod mai dim ond trwy ymdrechion y trydydd sector a’r sectorau preifat a chyhoeddus ar y cyd y gellir gwneud cynnydd ac na all Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud hyn ar ei phen ei hun.