Skip to content

Y Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles 2011 yn golygu mwy o ddewis wrth wario’r talebau a ddosberthir drwy’r cynllun.

Mae’r newidiadau i’r rheoliadau yn golygu y gall menywod a theuluoedd sy’n derbyn cymorth drwy’r cynllun wario eu talebau ar ffrwythau a llysiau plaen wedi’u rhewi. Mae hyn yn ychwanegol at y bwydydd a ganiateir eisoes: 

  • ffrwythau a llysiau plaen ffres
  • llaeth
  • fformiwla i fabanod. 

Bydd hyn yn cynyddu dewis a hyblygrwydd. Bydd yn rhoi mwy o anogaeth i bobl brynu a bwyta ffrwythau a llysiau, yn unol ag argymhellion y Llywodraeth.