Skip to content

Fframwaith ansawdd ac effeithiolrwydd ar gyfer dysgu ôl-16: y sail dystiolaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym yn ariannu ystod eang o raglenni dysgu i bobl ifanc ac oedolion drwy golegau, awdurdodau lleol, y trydydd sector a chyrff preifat.

Strategaeth a chynllun gweithredu sgiliau a chyflogaeth yw Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru sy'n ymrwymo'r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) i sefydlu Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd newydd i gefnogi gwelliannau parhaus yn ansawdd dysgu ôl-16. Mae cynnydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf o ran gwella ansawdd y dysgu hwn, ac mae darparwyr addysg yn gwella o ran cydweithio i rannu adnoddau, dysgu o brofiadau ei gilydd a chynllunio ar y cyd i sicrhau eu bod yn bodloni galw yn lleol a blaenoriaethau cenedlaethol.

Ein her nawr yw adeiladu ar y cynnydd hwn i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu derbyn darpariaeth o'r safon uchaf; bod darparwyr yn datblygu partneriaethau effeithiol sy'n ymateb i anghenion unigolion, cyflogwyr a chymunedau; a bod APADGOS yn defnyddio'i hadnoddau er mwyn sicrhau'r gwerth gorau posibl i arian cyhoeddus.

Bydd y Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd newydd, a ddatblygwyd drwy bartneriaeth agos ag Estyn, cyrff cynrychioliadol y darparwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill, yn ein helpu i godi safon y ddarpariaeth i lefel newydd. Bydd y fframwaith 'cenhedlaeth newydd' hwn yn herio pob darparwr i wella'u perfformiad yn barhaus, ond bydd yn rhoi mwy o ryddid a hyblygrwydd i'r rheini sy'n dangos eu heffeithiolrwydd yn gyson.