Skip to content

Adroddiad Cydraddoldeb Cyflogwr 2009-2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r adroddiad hwn yn bwrw golwg cyffredinol ar ein gweithgareddau yn ystod blwyddyn ariannol 2009-10.

Mae rhai o'n cyflawniadau wedi'u hamlinellu isod:

Arweinyddiaeth

Fe wnaethom arwain y gwaith o drefnu cynhadledd cydraddoldeb a gwaith gyda sefydliadau o'r sector cyhoeddus ledled Cymru yn bresennol. Y nod oedd amlinellu pa mor bwysig yw datblygu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.

Rheoli Talent

Mae mwy na 50% o'r rhai a fu'n cymryd rhan yn y Rhaglen Llwybrau Llwyddiant wedi cael dyrchafiad.

Sgiliau

Darparwyd 38 o gyrsiau hyfforddiant iaith Gymraeg mewn lleoliadau ledled Cymru.

Adnoddau

Penodwyd 3 o'r rhai a gymerodd ran yn y Cynllun Cyflogaeth dan Gymorth yn aelodau parhaol o staff.

Cydnabod a Gwobrwyo

Fe wnaethom arddangos llwyddiant y Tîm Cynhwysiant a dderbyniodd wobr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth am eu gwaith ar ddatblygu'r Strategaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.