Skip to content

Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl

Dolenni perthnasol

Dyma adroddiad cyntaf Gweinidogion Cymru ar roi'r Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl ar waith ar 1 Rhagfyr 2008.

Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf Gweinidogion Cymru ar roi'r Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl ar waith ar 1 Rhagfyr 2008.

Nid y bwriad oedd i'r adroddiad fod yn un deongliadol; rhoddodd gipolwg o'r ffordd y mae awdurdodau cyhoeddus yn ymgorffori'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn eu gwaith. 

Yn ogystal â phennu gwybodaeth ystadegol ynghylch materion anabledd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o wyth o argymhellion y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu'u rhoi ar waith i wella cydlyniant a gwneud cynnydd pellach ar roi'r Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl ar waith.

Yr argymhellion oedd bod Llywodraeth Cymru:

  • yn sefydlu Grŵp Cynghori i nodi ac ystyried y materion sy'n codi yn yr adroddiad;
  • yn datblygu rhaglen o weithgarwch gyda'r Grŵp Cynghori i ddatblygu dulliau o gasglu gwybodaeth ar gyfer yr adroddiad nesaf;
  • yn ymchwilio i gyfleoedd i ddefnyddio prosesau cyfredol i gasglu gwybodaeth, fel y rheini a ddefnyddir gan gyrff arolygu, i lywio'r adroddiad nesaf;
  • yn ymchwilio i sut gall pobl anabl gymryd rhan fwy gweithgar mewn rhaglenni polisi ac ymchwil yn y dyfodol i asesu effeithiolrwydd cynlluniau penodol o safbwynt ffeithiol;
  • yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Swyddfa Gydraddoldeb y Llywodraeth i ddatblygu dangosyddion i werthuso cynnydd y gwaith o roi'r ddyletswydd cydraddoldeb anabledd ar waith;
  • yn ymchwilio i'r ffordd y gallwn ddatblygu amcangyfrifon cadarn ar lefel Cymru i helpu i fonitro agweddau ar gydraddoldeb;
  • yn annog awdurdodau cyhoeddus i ystyried yr adroddiad hwn a sut gellir ei ddefnyddio i ddatblygu/annog cynnydd pellach o ran hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, gan sicrhau ar yr un pryd bod systemau ar waith i sicrhau'r dyletswyddau cyfreithiol;
  • yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r Model Anabledd Cymdeithasol fel rhan o'r broses llunio polisïau, a thrwy wneud hynny yn annog awdurdodau cyhoeddus i wneud yr un fath.

Bydd ail adroddiad Gweinidogion Cymru, sydd i'w gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2011, yn rhoi'r diweddaraf ynghylch y camau sydd wedi'u cymryd ar sail yr argymhellion yn adroddiad cyntaf Gweinidogion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu trefniadau i gasglu tystiolaeth ar ffurf data ystadegol a'r canfyddiadau ymchwil sydd eu hangen i lywio'r adroddiad.