Skip to content

Model Cymdeithasol o Anabledd

Dolenni perthnasol

Os oes unrhyw wybodaeth yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol nad ydych wedi llwyddo i gael gafael arni ar y wefan hon, rhowch wybod i ni a byddwn yn fwy na pharod i'ch helpu.
Y Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl sy'n cael ei ddisgrifio ar y dudalen hon yw'n cynnig cyntaf ar esbonio sut yr ydym am hybu cyfle cyfartal i bobl anabl.
Dylai darparwyr lleoliadau ddefnyddio’r canllawiau ar-lein unigryw fel arf i asesu sut i ddiwallu anghenion pobl anabl.

Beth yw Model Cymdeithasol o Anabledd?

Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd fel sylfaen ar gyfer ei gwaith ar anabledd.

Nod y model yw annog cymdeithas i ystyried anabledd mewn ffordd hollol wahanol. Nid nam y sawl sy'n anabl yw sylfaen y model ond sut y mae cymdeithas yn ymateb iddo. Mae gan bobl anabl yr hawl i gael yr un gwasanaethau, gwybodaeth ac adnoddau â phobl heb anabledd.

Pwy sy'n rhan o'r gwaith?

Yn 2005 cytunodd yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ariannu prosiect tair blynedd Anabledd Cymru (cysylltiad allanol) ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn dwyn y teitl Cydraddoldeb Anabledd ar Waith. Nod cyffredinol y prosiect yw sicrhau o'r dechrau bod y polisïau sy'n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Bydd canlyniad y prosiect yn cyfrannu at waith Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu ei Chynllun Cydraddoldeb Anabledd ei hun fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (cysylltiad allanol).