Skip to content

Y Ddyletswydd Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau

Dolenni perthnasol

Mae Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi sut rydym yn bwriadu hyrwyddo cyfle cyfartal i fenywod a dynion yng Nghymru.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol Llywodraeth Cymru yn nodi sut rydym yn bwriadu hyrwyddo cyfle cyfartal i fenywod a dynion yng Nghymru.

Y Ddyletswydd Gyffredinol

Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2006 ddyletswydd gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus i:

  • hybu cyfle cyfartal; a
  • pheidio â gwahaniaethu'n anghyfreithlon rhwng dynion a menywod wrth gyflogi neu wrth ddarparu gwasanaethau.

Er nad oes gennym ddyletswydd penodol yng Nghymru i lunio Cynllun Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, hoffai Llywodraeth Cymru gael ei chydnabod am ddarparu gwasanaeth rhagorol i fenywod a dynion yng Nghymru drwy ddatblygu strategaethau a pholisïau sy'n effeithiol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau.

Rydym wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau a fydd ar waith rhwng mis Ebrill 2007 a mis Mawrth 2008. Wedi hynny, rydym yn bwriadu datblygu Cynllun Cydraddoldeb Unigol a fydd yn cyfuno ein hagenda ar ddyletswyddau cydraddoldeb. Bydd yn ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni ac yn arwain at ddull gweithredu mwy cydlynol ac amlochrog.

Mae'r cynllun yn cael ei ategu gan gynlluniau gweithredu o bob un o adrannau Llywodraeth Cymru. Mae'r cynlluniau gweithredu yn amlinellu sut y bydd yr adrannau'n gwireddu eu hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Er mwyn sicrhau bod y cynlluniau'n hawdd eu hadnabod a'u diweddaru, maent wedi'u cyhoeddi ar wahân i'r cynllun.