Skip to content

Gwella iechyd

Dolenni perthnasol

Gosod cyfeiriad strategol ar gyfer iechyd cyhoeddus tan 2020.
Beicwyr
Hybu iechyd da drwy gydol eich oes.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd yng Nghymru. 

Mae hyn yn golygu rhoi cyfle cyfartal i bawb gael gafael ar gyfleusterau a gwasanaethau iechyd.

Rydym yn canolbwyntio ar atal afiechyd yn y lle cyntaf, ac ar fynd i'r afael â phroblemau yn gynnar.

Y Drafodaeth Fawr ar Iechyd

Mae iechyd pobl Cymru yn gwella, ar y cyfan, ond  mae heriau mawr yn ein hwynebu o hyd ym maes iechyd.

Er engraifft, nid yw iechyd pobl sy’n llai cefnog yn gwella mor gyflym ag iechyd y rheini sy’n well eu byd. Mae lles meddyliol gwael a lefelau gordewdra cynyddol yn gysylltiedig â hyn.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod angen i blant a phobl ifanc gael cychwyn iach mewn bywyd, a bod modd inni gymryd camau drwy gydol ein hoes i wella ein hiechyd a’n lles.

Wefan Y Drafodaeth Fawr ar Iechyd (dolen allanol)

Ein ffordd

Ein ffordd ni o fynd ati i wella iechyd yw hyrwyddo iechyd da trwy gydol bywydau pobl Cymru - o dyfu i fyny'n iach i heneiddio'n iach. Rydym ni'n gwneud hyn trwy annog pobl i newid eu ffyrdd o fyw er mwyn gwella eu hiechyd.

Rydym ni hefyd yn cynorthwyo eich cymuned a llywodraeth leol i newid amryw o ffactorau yn yr amgylchedd a'ch gweithle sy'n effeithio ar eich iechyd.

O'r dudalen hon, cewch fwy o wybodaeth ar wella iechyd pobl hŷn, plant a phobl ifanc, gan gynnwys cyngor ar iechyd yn ystod beichiogrwydd. Cewch wybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd yn y gweithle ac yn y gymuned.

Mae'r adran hon hefyd yn esbonio sut y gall bwyd, gweithgarwch corfforol a smygu effeithio ar eich iechyd.

Cewch fwy o wybodaeth eto am wella iechyd:

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Iechyd yng Nghymru