Skip to content

Gwnewch Newid am Oes

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio i greu amgylchedd sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol ym mhob rhan o’r gymdeithas.
Person rhediad

 

Nod Newid am Oes yw eich helpu i fwyta’n dda, symud mwy a byw’n hirach.

Paid gadael i'r ddiod dy ddal di'n slei bach

Cymer bwyll yfa lai (dolen allanol)

Gwnewch Newid am Oes

Rydym yn gwybod y gall ymarfer corff wneud ichi deimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol.

Fodd bynnag, mae ein ffordd fodern o fyw yn aml yn golygu ein bod ni'n treulio llai o amser yn symud o gwmpas a mwy o amser yn eistedd o flaen y teledu, y consol gêmau neu'r cyfrifiadur. Hefyd mae'r holl fwyd parod sydd ar gael yn golygu nad yw llawer ohonom yn bwyta bwyd mor iach ag y gallem.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf (Arolwg Iechyd Cymru 2008) amcangyfrifir bod un plentyn mewn tri yng Nghymru yn rhy drwm, gan gynnwys 16% sy'n ordew.

Ac mae dros hanner oedolion Cymru yn rhy drwm, gan gynnwys 21% sy'n ordew.

Gall gordewdra eich cadw rhag bod yn heini a gall arwain at gyflyrau difrifol fel clefyd y galon a diabetes (math 2).

Mae'n bwysig, felly, ein bod i gyd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros ein hiechyd ac yn gwneud cymaint ag y gallwn i atal yr hyn y mae'n bosibl ei atal.

Er bod y ffactorau sy'n cyfrannu at ordewdra yn gymhleth, er mwyn cadw'ch pwysau yn iach mae angen ichi gadw cydbwysedd rhwng yr hyn rydych yn ei fwyta a'r ynni rydych yn ei ddefnyddio drwy ymarfer corff.

Yr hyn y mae gwir angen inni ei wneud yw ei gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau iach, bwyta mwy o ffrwythau a llysiau ffres er enghraifft.

Creu Cymru Egnïol

Rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r broblem hon yw lansio'r cynllun ymarfer corff, Creu Cymru Egnïol.

Nod y cynllun yw datblygu amgylchedd ffisegol:

  • sy'n ei gwneud yn haws i bobl ddewis gwneud mwy o ymarfer corff
  • i helpu plant a phobl ifanc i wneud ymarfer corff a thyfu'n oedolion sy'n gwneud ymarfer corff
  • i annog mwy o oedolion i wneud mwy o ymarfer corff, a hynny'n amlach drwy gydol eu bywyd
  • i annog pobl i wneud mwy o chwaraeon.

Y peth pwysig i'w gofio yw bod gwneud mwy o ymarfer corff yn gallu cynnwys:

  • cerdded neu seiclo i'r gwaith neu'r siopau,
  • cymryd y grisiau yn lle'r lifft,
  • neu chwarae yn y parc gyda'ch plant.

Gweithgareddau bob dydd yw'r rhain - nid oes rhaid ichi ymuno â champfa o reidrwydd.

Drwy siarad â phobl am y cynllun, daeth yn amlwg eich bod yn awyddus i weld ymgyrch sy'n tynnu sylw at fanteision gwneud mwy o ymarfer corff a dewis bwyd iachach, ac sy'n dangos ffyrdd hawdd o wneud y newidiadau hyn a chadw atynt.