Skip to content

Bwyd a gweithgarwch corfforol

Dolenni perthnasol

Mae'r crynodeb hwn yn rhoi manylion y cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran ein hamcanion strategol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn a'ch sylwadau ynglŷn â'r cynlluniau i wella darpariaeth bwyd a diod i gleifion preswyl mewn ysbytai.
Mae’r bws coginio yn ymweld ag ysgolion cynradd lle mae gwersi coginio ymarferol i ddisgyblion, athrawon a rhieni yn cael ei cynnal.
Tair o bobl yn cael picnic
Annog y genedl i fwyta’n iach a gwneud mwy o weithgarwch corfforol.

Gall gwneud digon o ymarfer corff a bwyta deiet cytbwys a iach wella eich iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn nifer o gynlluniau i hybu gweithgarwch corfforol ar draws Cymru, yn enwedig ymysg pobl ifanc a phobl sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig.  Gallwch gael gwybodaeth am hyn yn yr adran 'Dringo'n Uwch - y camau nesaf' ar y wefan.

Mae bwyta deiet cytbwys a iach wedi dangos bod modd lleihau risgiau llawer o glefydau sy'n gallu peryglu eich bywyd gan gynnwys rhai mathau o ganser a chlefyd coronaidd y galon.

Mae'r rhaglen cydweithfeydd bwyd cymunedol yn cynorthwyo pobl i fwyta deiet cytbwys a iach.  Mae'r rhaglen yn galluogi pobl i brynu ffrwythau a llysiau yn unol â phrisiau cyfanwerthu.  Ar y wefan, mae adran am Gydweithfeydd Bwyd ac yno, mae modd cael gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn y cynllun cydweithfeydd bwyd.