Skip to content

Gweithgarwch corfforol

Dolenni perthnasol

Mae'r crynodeb hwn yn rhoi manylion y cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran ein hamcanion strategol.
Datblygwyd y ddogfen hon i roi arweiniad ar swyddogaeth mudiadau allweddol wrth gyflenwi’r agenda gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio i greu amgylchedd sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol ym mhob rhan o’r gymdeithas.
Dyn a bachgen yn chwarae pêl-droed
Nid yw'r rhan fwyaf o Gymry’n ddigon heini er lles eu hiechyd.

Mae arbenigwyr yn argymell y dylech wneud 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol (sy’n peri i chi fod rhywfaint yn fyr eich gwynt) o leiaf 5 diwrnod o’r wythnos.  Dim ond 29% o bobl Cymru sy’n cyrraedd y nod hwn.

Mae anweithgarwch corfforol yn gallu arwain at achosion peryglus o glefydau cronig fel clefyd cardiofasgwlaidd, rhai mathau o ganser, diabetes math II ac osteoporosis.

Mae pobl segur yn fwy tebygol o fod dros eu pwysau ac o ddioddef pwysedd gwaed uchel a/neu lefelau colesterol uchel, a phroblemau iechyd meddwl.

Mae pobl hŷn segur hefyd mewn mwy o beryg o gwympo a dioddef anafiadau difrifol. Mae gweithgarwch corfforol yn elfen allweddol o gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i atal a thrin clefyd coronaidd y galon.