Skip to content

Fitamin D

Dolenni perthnasol

Canllawiau i weithwyr iechyd proffesiynol ar Fitamin D.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyngor ar gymryd tabledi fitamin D pan fyddwch yn feichiog neu’n bwydo ar y fron, a fitaminau i blant ifanc a’r blynyddoedd cynnar.

Mae adrannau iechyd y DU yn dweud bod rhai grwpiau o bobl mewn perygl o ddioddef diffyg fitamin D. Dylai’r grwpiau hyn gymryd tabledi bob dydd i sicrhau bod eu cyrff yn cael digon o fitamin D:

  • Mae Pob menyw feichiog a phob menyw sy’n bwydo ar y fron, yn enwedig menywod yn eu harddegau a menywod ifanc, mewn perygl o ddioddef diffyg fitamin D.
  • Plant dan 5 oed.
  • Pobl nad ydynt yn cael lawer o haul ar eu croen, er enghraifft, pobl sy’n gorchuddio’u croen am resymau diwylliannol, sy’n gaeth i’r tŷ neu sy’n gorfod aros y tu mewn am gyfnodau hir.
  • Pobl o leiafrifoedd ethnig sydd â chroen tywyll, gan nad yw eu cyrff yn gallu cynhyrchu cymaint o fitamin D. Mae’r rhan fwyaf o achosion clinigol o ddiffyg fitamin D i’w gweld ymhlith plant o dras Africanaidd-Caribïaidd a De Asiaidd.

Mae menywod a phlant sy’n cymryd rhan yn y cynllun Cychwyn Iach, sydd ar waith ledled y DU, yn gallu cael tabledi sy’n cynnwys fitamin D am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Cychwyn Iach, ewch i www.healthystart.nhs.uk (Saesneg yn unig)