Skip to content

Bwydydd hawdd i'w coginio i'ch teulu a'ch babi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Clawr Bwydydd hawdd i'w coginio i'ch teulu a'ch babi
Cyflwyno bwydydd soled neu ddiddyfnu yw’r cyfnod nesaf yn natblygiad eich babi. 
Yr oedran yr argymhellir cyflwyno bwydydd soled yw tua chwe mis, ac yr oedran hwn gall babanod symud i ddeiet gymysg yn hawdd. Tua’r adeg hon, bydd eich babi yn datblygu’r sgiliau i allu dal gwrthrychau a’u rhoi nhw yn y geg i’w sugno, ac yn dangos arwyddion bod ganddo/ganddi ddiddordeb yn y bwyd yr ydych chi a’ch teulu yn ei fwyta.

Mae’n bwysig nad ydych chi’n diddyfnu’ch babi’n rhy gynnar (cyn 17 wythos), gan y bydd system dreulio’ch babi a’i arennau’n rhy anaeddfed i ymdopi â bwyd soled.

Os byddwch yn poeni am unrhyw beth sy’n ymwneud â chyflwyno bwydydd i’ch babi, dylech chi drafod eich pryderon â’ch ymwelydd iechyd.