Skip to content

Dychwelyd i’r gwaith a bwydo ar y fron - gweithwyr

Dolenni perthnasol

Mae llawer o fenywod sy'n bwydo ar y fron yn gallu parhau i fwydo ar ôl dychwelyd i'r gwaith.

Gall dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod ar gyfnod mamolaeth fod yn amser anodd i’r fam a’r baban, ond gellir ei wneud yn haws os y bydd rhai arferion yn aros yr un fath.

Gellir gwneud bywyd yn haws os gellir cadw at rhai arferion.

Wedi misoedd o ddatblygu cysylltiad agos, y peth olaf rydych am wneud yw gwneud newidiadau mawr i unrhyw batrwm bwydo.  Os oedd bwydo ar y fron yn rhan o’r patrwm hwnnw, nid oes angen rhoi’r gorau iddi – dim ond addasu.

Mae nifer o famau sy’n bwydo ar y fron yn gallu parhau i wneud hynny ar ôl dychwelyd i’r gwaith.  Mae gan gyflogwyr hefyd ymrwymiadau cyfreithiol i’w weithwyr sy’n bwydo ar y fron.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw paratoi, bod  yn drefnus a bod yn benderfynol i wneud yr hyn sydd orau.  Wedi’r cyfan, llaeth y fron sydd orau i’r baban a bwydo ar y fron sydd orau i chi.

Dyma ganllaw ar sut i baratoi a’r ffordd orau i fwydo ar y fron fel rhan o’ch bywyd yn y gwaith:

Dywedwch wrth eich cyflogwr

Mae’n hynod bwysig i ddweud wrth eich cyflogwr y byddwch yn bwydo ar y fron ar ôl dychwelyd i’r gwaith.  Efallai y bydd Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu Safon Iechyd Gorfforaethol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’ch cyflogwr ddarparu cyfleusterau addas ar gyfer mamau sy’n bwydo ar y fron.  Ar y llaw arall, efallai na fydd eich cyflogwr wedi dod ar draws aelod o staff sy’n bwydo ar y fron o’r blaen, a’u bod heb syniad o gwbl beth i’w ddisgwyl.  Bydd angen ichi felly drafod ac edrych ar yr opsiynau gyda hwy, a chofio rhoi digon o amser i’ch cyflogwr fodloni eich anghenion.

Cyfuno bwydo ar y fron â’r gwaith

Dyma rai opsiynau ymarferol allai eich helpu i barhau i fwydo ar y fron tra’n gweithio.

  • Gallwch gael llaeth o’r fron fel bod modd i rywun arall fwydo eich baban pan fyddwch yn y gwaith.  Unwaith y byddwch gartref cewch barhau i fwydo ar y fron fel arfer;
  • Gofynnwch i’ch cyflogwr am oriau gweithio hyblyg, i’w hamseru o gwmpas eich anghenion bwydo ar y fron;
  • Dewch o hyd i ofal plant ar gyfer eich baban sy’n agos at eich gweithle fel bod modd i chi fwydo yn ystod seibiannau.

Mae rhai opsiynau’n fwy addas i fathau arbennig o ddiwydiannau a chyflogwyr, heb sôn am y trefniadau y gallwch eu gwneud ar gyfer gofal plant.  Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried cyfuniad o’r opsiynau hyn, gan ddibynnu ar eich cytundeb gwaith, â’ch cyflogwr, a’r hyn sy’n gweithio orau i chi a’ch baban.

Cael llaeth o’r fron

  • Mae dwy ffordd o gasglu llaeth – â llaw neu bwmp.  Gall ffrindiau, cefnogwyr bwydo ar y fron a gweithwyr iechyd proffesiynol drafod y gwahanol ddulliau gyda chi a’ch helpu i ddod o hyd i’r un sydd fwyaf addas ar eich cyfer.
  • Os nad ydych wedi cael llaeth o’r fron o’r blaen, efallai yr hoffech ymarfer fel bod modd i chi arfer â hyn, a chael syniad o faint o amser y mae’n ei gymryd.
  • Cofiwch sicrhau bod yr holl offer yn cael ei sterileiddio.

Storio llaeth o’r fron

  • Gallwch storio llaeth o’r fron mewn oergell – gofynnwch i’ch cyflogwr ddarparu un os nad oes un ar gael – ac ewch â’r llaeth adref mewn bag oer.
  • Gellir storio llaeth o’r fron mewn oergell am hyd at bum diwrnod ar 4’C neu'n is (mae fel arfer yn oerach yng nghefn yr oergell) a gellir ei rewi am hyd at chwe mis. Unwaith y bydd wedi'i ddadrewi'n drwyadl yn yr oergell, peidiwch â'i ail-rewi.
  • Rhowch label a dyddiad ar laeth o’r fron cyn ei storio.

Cyngor defnyddiol i’ch helpu i baratoi

  • Casglwch gyflenwad o laeth o’r fron cyn i chi ddychwelyd i’r gwaith.
  • Cadwch flows neu grys-t a phadiau bron sbâr yn y gwaith.
  • Rhowch gynnig ar eich trefniadau gofal plant cyn dechrau’n ôl yn y gwaith er mwyn rhoi cyfle i chi a’ch baban ddod i arfer â’r drefn.