Skip to content

Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron

Dolenni perthnasol

Edrychwch lle mae eich safle agosaf.
Cyfarwyddiadau ar sut i ymuno â’r cynllun.
Grŵp o famau sy’n bwydo ar y fron

Ydych chi'n fam sy'n bwydo ar y fron a fyddai'n hoffi argymell busnes ar gyfer y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron?

Mae'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn nodi'r safleoedd sy'n deall ac yn cefnogi anghenion mamau sy'n bwydo ar y fron a'u babanod. I fam newydd sy'n bwydo ar y fron, gall fod yn frawychus gadael gartref, yn enwedig os nad yw'n gwybod ble y gall hi fwydo'i babi.

Mae'r cynllun ar agor i:

  • gaffis a bwytai lleol;
  • siopau trin gwallt;
  • siopau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd;
  • canolfannau cymuned a chanolfannau iechyd - a dweud y gwir unrhyw fan sydd ar agor i'r cyhoedd.  

Beth y mae'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn ei olygu

  • Rhaid i fwydo ar y fron fod yn dderbyniol ym mhob man sy'n agored i'r cyhoedd.
  • ni ddylid gofyn i fam sy'n bwydo ar y fron symud na rhoi'r gorau i fwydo ar y fron.
  • dylid dweud wrth staff am y Cynllun a sut i gefnogi anghenion mamau sy’n bwydo ar y fron.
  • unwaith y bydd safle lleol wedi cytuno i ymuno â’r Cynllun, gall arddangos ein tystysgrif a’n sticer trawiadol i famau eu gweld, a gellir ychwanegu’r busnes at y gofrestr ar y wefan.

Ydych chi’n fusnes a fyddai'n hoffi croesawu mamau sy'n bwydo ar y fron a'u babanod?  

Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am y cynllun, e-bostiwch ni yn: publichealth.breastfeeding@wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at:

Sally Tedstone,
Cydlynydd Rhaglen Genedlaethol Cymru Bwydo ar y Fron,
Iechyd Cyhoeddus Cymru,
14 Ffordd y Gadeirlan,
Caerdydd. CF11 9LJ