Skip to content

Bwydo ar y fron yn y gweithle - cyflogwyr

Dolenni perthnasol

Mae llawer o fenywod sy'n bwydo ar y fron yn gallu parhau i fwydo ar ôl dychwelyd i'r gwaith.

Gwybodaeth i gyflogwyr am eu cyfrifoldebau cyfreithiol o ran mamau sy'n dychwelyd i'r gwaith ac sy'n bwydo ar y fron a sut i gynnig cymorth iddynt.

Gwybodaeth i gyflogwyr

A oes gennych weithiwr sy’n dymuno bwydo ar y fron yn y gweithle?

Mae rhai ymrwymiadau cyfreithiol sy’n berthnasol i gyflogwyr sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi cymorth i famau sy’n bwydo ar y fron ac yn dychwelyd i’r gwaith.  Ond nid yw’n anodd bodloni’r gofynion hyn a gall cynorthwyo staff sy’n bwydo ar y fron hefyd wneud synnwyr ym myd busnes.

Sut y gall cynorthwyo aelod o staff sy’n bwydo ar y fron helpu eich busnes?

  • Mae babanod sy’n bwydo ar y fron yn iachach felly rydych yn llai tebygol o orfod delio â gweithiwr sy’n absennol oherwydd salwch plentyn.
  • Gwella teyrngarwch gweithwyr gyda chyfradd uwch yn dychwelyd i’r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth.
  • Llai o angen costau recriwtio a hyfforddi ar gyfer staff newydd.
  •  Mantais ddeniadol i’w chynnig i weithwyr.

Sut y gall cyflogwyr helpu?

Yn gyntaf, bydd angen i chi lunio polisi i gefnogi bwydo ar y fron sy’n cynnwys:

  • Oriau gweithio hyblyg ar gyfer mamau sy’n bwydo ar y fron;
  • Hawl i seibiant fel y gall mamau gael llaeth o’r fron;
  • Ystafell lân, gynnes, breifat ar gyfer cael llaeth o’r fron (nid y toiledau);
  • Oergell i storio llaeth o’r fron.

Mae’n bwysig bod gweithwyr yn gwybod am eich polisi bwydo ar y fron cyn iddynt gymryd cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Yn ôl y gyfraith

Mae’r gyfraith yn datgan y caiff mamau benderfynu am ba hyd y maent yn dymuno bwydo ar y fron ac nid oes angen iddynt roi’r gorau iddi ar ôl dychwelyd i’r gwaith.

Cyn dychwelyd i’r gwaith, dylai gweithiwr hysbysu ei chyflogwr yn ysgrifenedig ei bod yn bwydo ar y fron.  Yna mae’n rhaid i’r cyflogwr gynnal asesiad risg penodol.

Mae Rheoliadau’r Gweithle a’r Cod Ymarfer Cymeradwy yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu cyfleusterau addas i famau beichiog a mamau sy’n bwydo ar y fron orffwyso.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn argymell ei fod yn arfer da i gyflogwyr ddarparu amgylchedd preifat, iach a diogel i famau sy’n bwydo ar y fron gael llaeth o’r fron a’i storio.

Ble i ddod o hyd i ragor o wybodaeth

Gweithredwr iechyd a diogelwch – Iechyd a diogelwch ar gyfer mamau newydd a beichiog (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau - Beichiogrwydd a gwaith – beth fydd angen i chi ei wybod fel cyflogwr (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Llinell Gymorth Genedlaethol y DU: 0300 100 0212