Skip to content

Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru

Dolenni perthnasol

Rydym yn awyddus i gasglu eich safbwyntiau ynghylch sut y gallai deddfwriaeth helpu i wella iechyd cyffredinol Cymru ymhellach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru i gynnwys lleoliadau cyn-ysgol.
Gwybodaeth am astudiaethau achos hybu iechyd o amrywiaeth o ysgolion ledled Cymru.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi manylion y meini prawf ar gyfer ysgolion sy’n cael eu hasesu ar gyfer y wobr ansawdd genedlaethol fel rhan o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru.

Annog datblygiad cynlluniau ysgolion iach lleol.

Mae'r cynlluniau lleol hyn yn annog ysgolion i hybu iechyd yn eu hardaloedd.

Mae cyhoeddiadau a digwyddiadau rhwydweithio cenedlaethol yn cynnig cyngor ac arweiniad i gynlluniau lleol o fewn y fframwaith cenedlaethol, gan gynnwys amcanion cenedlaethol a chanllawiau ar swyddogaethau lleol a chenedlaethol.

Datblygwyd Cynlluniau Ysgolion Iach ar ôl cydweithio â 12 ysgol fel rhan o Rwydwaith Ysgolion Hybu Iechyd Ewrop. Mae astudiaethau achos yng nghylchgrawn Mewn Persbectif.

Mae ysgolion yn gallu datblygu polisïau a systemau hybu iechyd, hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o gynllun hybu iechyd lleol. Gallant gyfrannu at hybu ffyrdd iach o fyw trwy ystyried pob math o gynlluniau gweithredu ar bynciau iechyd penodol.