Skip to content

Lleiafrifoedd ethnig ac ysmygu

Dolenni perthnasol

Mae nifer o ddogfennau ar gael i’w lawrlwytho i’ch helpu chi i roi’r gorau i ysmygu.

Deall y defnydd o dybaco mewn grwpiau ethnig lleiafrifol.

Rhaid deall y defnydd o dybaco mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig drwy edrych ar y lefelau defnydd (lle mae, er enghraifft, yn llawer uwch ymysg dynion Bangladeshaidd), a'r math o gynnyrch tybaco a ddefnyddir.

Gall cnoi tybaco achosi canser y geg, y gwddf a'r stumog.

Mae cnoi paan (deilen betel) gyda thybaco, rhywbeth sy'n gyffredin mewn rhai cymunedau De Asia, yn achosi canser, problemau deintyddol a briwiau'r geg.

Rhoi'r gorau i ysmygu

Canfu gwaith ymchwil fod ysmygwyr o blith grwpiau lleiafrifoedd ethnig yr un mor barod i roi'r gorau i ysmygu ag ydyw gweddill poblogaeth y DU. Adroddodd cyfran uwch o ysmygwyr o grwpiau lleiafrifoedd fod ganddynt gynlluniau pendant i roi'r gorau i ysmygu o’i gymharu â phoblogaeth ysmygu'r DU. Er gwaethaf y cynlluniau hyn, mae canran is yn adrodd eu bod wedi rhoi’r gorau iddi ers 10 mlynedd o'i gymharu â phoblogaeth y DU o gyn-ysmygwyr.

Mae Dim Smygu Cymru yn helpu pawb sydd am roi’r gorau i smygu, gan gynnwys unigolion o grwpiau ethnig, i wneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i Dim Smygu Cymru (dolen allanol)

Ar lefel y DU, ceir llinell gymorth hefyd sy'n cynnig cefnogaeth i'r rhai hynny sy'n chwilio am gyngor am roi'r gorau iddi.

Ymwelwch â: Asian QuitLine (dolen allanol, Saesneg yn unig) neu ffonio 0800 00 22 88

Mae amrywiol linellau cymorth ar gael i bobl â gofynion diwylliannol neu ieithyddol penodol.

Bengaleg ffoniwch 0800 00 22 44
Gwjarateg ffoniwch 0800 00 22 55
Hindi ffoniwch 0800 00 22 66
Pwnjabeg ffoniwch 0800 00 22 77
Wrdweg ffoniwch 0800 00 22 88