Skip to content

Mwg ail-law

Dolenni perthnasol

Mae'r llyfryn hwn yn esbonio effeithiau mwg tybaco 'ail-law' neu amgylcheddol.
Mae’r llyfryn hwn yn rhoi awgrymiadau i ysmygwyr am sut i warchod plant rhag mwg ail-law.

Mae tystiolaeth gref fod mwg tybaco amgylcheddol yn niweidio iechyd unigolion nad ydynt yn ysmygu.

Cadarnhaodd y Pwyllgor Gwyddonol ar Dybaco a Iechyd (SCOTH) y gall dod i gysylltiad â mwg ail-law achosi:

  • canser yr ysgyfaint ac afiechyd y galon ymysg oedolion nad ydynt yn ysmygwyr;
  • clefyd resbiradol; 
  • marwolaeth yn y crud; 
  • clefyd canol y glust; a 
  • phyliau o asthma mewn plant.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod mwg ail-law yn risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd.

Gallwch ddod o hyd at adroddiad hon ar wefan yr Adran Iechyd y DU.

Ewch i: Adroddiad SCOTH (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Deddfwriaeth ddi-fwg

Daeth deddfwriaeth ddi-fwg sy'n gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd i rym yng Nghymru ar 2 Ebrill 2007.

Ewch i: Gwahardd Smygu Cymru (dolen allanol)

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2008, pwysleisiodd Prif Swyddog Meddygol Cymru yr angen i annog cartrefi i fod yn ddi-fwg er mwyn amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law.