Skip to content

Pobl ifanc ac ysmygu

Dolenni perthnasol

Helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi.
I helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu.
Person ifanc yn torri lan ei sigarét
Annog plant a phobl ifanc yn eu harddegau i beidio â dechrau ysmygu ydy un o flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru

Yng Nghymru, dengys arolygon bod ysmygu ymysg pobl ifanc yn eu harddegau wedi cynyddu yn raddol yn ystod y 1980au a dechrau’r 1990au. Erbyn 1996, adroddai 29% o ferched a 23% o fechgyn 15 oed eu bod yn ysmygu bob wythnos. Yn galonogol, mae arolygon dilynol wedi awgrymu bod y cynnydd hwn mewn ysmygu rheolaidd wedi cyrraedd uchafbwynt ymysg merched ac wedi dechrau cael ei wrthdroi ymysg bechgyn (27% o ferched ac 16% o fechgyn 15 oed yn 2002). Bydd gofyn cael data pellach i gadarnhau a yw hwn yn newid parhaol yn y sefyllfa.

Mae Rhaglen Dybaco Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys amrywiol gynlluniau i roi sylw i ysmygu ymysg pobl ifanc.

Mae llawer o blant yn arbrofi gydag ysmygu, gan gredu y byddant yn gallu rhoi’r gorau iddi pan fyddant yn dewis gwneud hynny. Ond mae'n hawdd iawn mynd yn gaeth i ysmygu, ac mae llawer yn methu â rhoi'r gorau iddi.