Skip to content

GIG Cymru

Dolenni perthnasol

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau allweddol yr arolwg.
Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r trefniadau rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr i helpu cleifion sy’n byw ar y ffin rhwng Cymru/Lloegr.
Hwn yw’r fframwaith cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi Law yn Llaw at Iechyd, sef y weledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y GIG.
Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd ein trefniadau sicrhau a gwella ansawdd newydd yn gweithio.
logo: GIG Cymru

Bron i 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru ac yn defnyddio gwasanaethau’r GIG.

Mae'r GIG yn darparu gwasanaethau drwy saith o Fyrddau Iechyd a thri o Ymddiriedolaethau GIG Cymru.

  • Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn cael eu darparu gan feddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal mewn canolfannau iechyd a meddygfeydd ledled Cymru.
  • Mae gofal eilaidd yn cael ei ddarparu drwy wasanaethau'r ysbytai ac ambiwlans.
  • Mae gofal trydyddol yn cael ei ddarparu gan ysbytai sy'n trin mathau arbennig o salwch megis canser.
  • Mae gwasanaethau gofal cymunedol fel arfer yn cael ei ddarparu drwy bartneriaith gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, a'i ddefnyddio yng nghartrefi pobl.

Mae'r canlynol yn ffactorau i'w hystyried gan y gwasanaethau iechyd yng Nghymru:

  • Cyfraddau uchel o ganser a chlefydau'r galon
  • Cyfran uchel o bobl hŷn  
  • Chymysgedd o ardaloedd gwledig, trefol a'r cymoedd.

Yn yr adran hon gallwch weld pa ddatblygiadau sydd ar droed i wella'r gwasanaethau iechyd, i fonitro perfformiad a mynd i'r afael â'r afiechydon mawr.

Ewch i wefan GIG Cymru am ragor o wybodaeth am GIG Cymru.