Skip to content

Mewnblaniadau bron silicon Poly Implant Prothese (PIP)

Dolenni perthnasol

Advice for patients, clinical professionals and NHS managers on proposed arrangements to assess / care for women with PIP implants.

Cyngor i Fenywod

Mae gen i fewnblaniad bron silicon gan PIP; beth ddylwn i ei wneud?

Rydym yn argymell y dylai pob claf sydd â chwestiynau am ei mewnblaniadau bron PIP ofyn am gyngor y llawfeddyg a wnaeth y mewnblaniad neu’r sefydliad a ddarparodd y llawdriniaeth yn wreiddiol. Os nad yw hyn yn bosib, dylech wneud apwyntiad i drafod y sefyllfa gyda’ch Meddyg Teulu.

Mae gen i fewnblaniad bron silicon, ond nid gan PIP; beth ddylwn i ei wneud?

Ar hyn o bryd mae’r broblem yn berthnasol i fewnblaniadau bron silicon a wnaed gan PIP yn unig. Felly ‘does dim angen cymryd unrhyw gamau pellach. Ond os oes gennych bryderon am eich mewnblaniad, dylech ofyn am gyngor y llawfeddyg a wnaeth y mewnblaniad. Cysylltwch â’r sefydliad a ddarparodd eich llawdriniaeth yn wreiddiol, neu’r ysbyty lle cawsoch y llawdriniaeth, a gofynnwch am gael siarad ag ysgrifennydd/ysgrifenyddes y llawfeddyg.

Mae gen i fewnblaniad bron silicon ond nid wyf yn gwybod a gafodd ei wneud gan PIP; beth ddylwn i ei wneud?

Dylech gysylltu â’r sefydliad a ddarparodd y llawdriniaeth yn wreiddiol neu â’r llawfeddyg a wnaeth y mewnblaniad i gael cadarnhad o’r math o fewnblaniad a ddefnyddiwyd ac, os cafodd ei wneud gan PIP, gofynnwch am gyngor y llawfeddyg. Os cawsoch eich llawdriniaeth yng Nghymru ni fyddwch wedi cael mewnblaniad PIP.

Rwyf wedi ceisio cysylltu â’r clinig a wnaeth y mewnblaniad ond nid yw’r clinig yn gweithredu erbyn hyn, neu mae’n gwrthod helpu oni bai mod i’n talu am driniaeth bellach; beth alla i ei wneud?

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu i drafod opsiynau ar gyfer cael eich hatgyfeirio am adolygiad clinigol gan arbenigwr. Os cytunir mai’r canlyniad mwyaf priodol fyddai cael gwared ar y mewnblaniad, bydd GIG Cymru hefyd yn rhoi mewnblaniad newydd yn ei le. Ond bydd angen ichi ddangos eich bod wedi cymryd camau i geisio cael y darparwr preifat i unioni’r sefyllfa.

Pam na ellir trefnu bod pob mewnblaniad bron silicon PIP yn cael ei wirio gan sganiwr MRI neu uwchsain?

Caiff sganiwr MRI neu uwchsain ei ddefnyddio i weld a oes unrhyw dystiolaeth fod y mewnblaniad wedi rhwygo. Ni fyddai sganio’n rhagweld a yw’r mewnblaniad yn debygol o rwygo yn y dyfodol.

Beth yw’r symptomau sy’n dangos bod mewnblaniad bron silicon o bosib wedi rhwygo?

Hollt sy’n digwydd i haenen allanol y mewnblaniad yw rhwyg. Gall ddigwydd:

  • os yw haenen allanol y mewnblaniad (sy’n dal y silicon neu’r dŵr halen) yn gwanhau dros amser;
  • os oes niwed yn digwydd i’r mewnblaniad yn ystod y llawdriniaeth;
  • os oes diffyg yn y mewnblaniad; neu
  • os bydd anaf i’r fron.

Pan gafodd mewnblaniadau eu datblygu yn y lle cyntaf, roedd y waliau’n denau iawn ac roedd rhwygiadau’n broblem gyffredin.

Fodd bynnag, pur anaml y bydd mewnblaniadau modern sydd wedi’u defnyddio yn y DU ers y 1990au yn rhwygo.

Os yw’ch mewnblaniad yn rhwygo, argymhellir eich bod yn cael gwared arno. Gellir gosod mewnblaniad newydd os dymunwch hynny, a’i fod yn briodol yn glinigol.

Os oes gennych fewnblaniadau silicon, gall silicon sy’n diferu o fewnblaniad sydd wedi rhwygo achosi problemau, fel siliconomas neu gall y gel ollwng (gweler isod).

Siliconomas

Os oes gennych fewnblaniad bron silicon sy’n rhwygo, gall y silicon ymledu y tu allan i gapsiwl y graith ac i mewn i’ch bron. Gall hyn arwain at lympiau mân yn datblygu, a elwir yn siliconomas.

Gall cyffwrdd â’r siliconomas fod yn boenus, ac os yw’r boen yn sylweddol efallai y bydd angen cael gwared arnynt. Mewn achosion prin, gall y silicon ymledu i’r cyhyrau o dan eich bron, eich cesail neu o gwmpas nerfau’r fraich.

Gel yn gollwng

Mae’r gel yn gollwng pan fydd gronynnau bach iawn o silicon yn cael eu rhyddhau oddi ar wyneb mewnblaniad bron silicon. Gall hyn ddigwydd wrth i fewnblaniad y fron rwygo, neu weithiau gall ddigwydd pan nad oes rhwyg.

Os yw’r gronynnau o silicon yn mynd i mewn i’r system lymffatig (y rhwydwaith o bibellau sy’n helpu’r corff i wrthsefyll haint), gallant gael eu trosglwyddo i nodau lymff cyfagos (chwarennau), fel y rhai yng nghesail y fraich. Gall hyn achosi’r nodau lymff i chwyddo rywfaint. Fel arfer problem fach yw hon, er y gall y nodau lymff chwyddedig fod yn anghyfforddus mewn rhai achosion.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n cael y symptomau hyn?

Dylech gysylltu â’r llawfeddyg wnaeth roi’r mewnblaniad a gofyn am ei gyngor. Os na allwch gysylltu ag ef gallwch ofyn i’ch meddyg teulu am gyngor pellach.

Pam na ellir cael gwared ar bob mewnblaniad PIP yn y DU?

Cynhaliodd y Grŵp Arbenigol adolygiad o’r data sydd ar gael a daeth i’r casgliad nad oes tystiolaeth glir ar hyn o bryd fod cleifion â mewnblaniad PIP mewn mwy o berygl o niwed na’r rhai sydd wedi cael mewnblaniadau eraill.

Mae risgiau’n gysylltiedig ag unrhyw ymyrraeth lawfeddygol. Heb ragor o dystiolaeth, nid ystyrir fod modd cyfiawnhau’r risgiau sy’n gysylltiedig â llawdriniaeth i gael gwared ar fewnblaniadau bron.

Beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â mewnblaniad bron silicon PIP yn aros y tu mewn i mi?

Comisiynodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) brofion gwenwyno ar y gel silicon nad oedd wedi’i gymeradwyo ac a ddefnyddiwyd i lenwi mewnblaniadau bron PIP, gan gynnwys profion gwenwyno’r genynnau (i weld a yw’n achosi niwed i wybodaeth enetig) a gwenwyno cemegol. Trafodwyd canlyniadau’r profion hyn ag arbenigwyr perthnasol a daethpwyd i’r casgliad nad oes problemau diogelwch yn gysylltiedig â’r deunydd llenwi. Roedd profion tebyg a gynhaliwyd gan y rheolydd meddyginiaethau a dyfeisiadau meddygol yn Ffrainc yn cadarnhau’r casgliadau hyn.

Pam ddigwyddodd hyn?

Ym mis Mawrth 2010 hysbyswyd yr MHRA fod yr awdurdod rheoleiddio yn Ffrainc wedi ymchwilio i weithgynhyrchu mewnblaniadau PIP, a hynny yn sgil rhywfaint o gynnydd yng nghyfradd y rhwygiadau. Datgelodd yr ymchwiliad fod problem o bosib gyda dyluniad capsiwl y fron a’r deunydd llenwi ac felly rhoddodd y rheolydd stop ar ei gynhyrchu. Fe gyhoeddodd yr MHRA yn y DU rybudd Dyfais Feddygol ar unwaith i atal mewnblaniadau PIP yma.

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llwybr gofal cleifion sy’n egluro i gleifion, gweithwyr proffesiynol clinigol a rheolwyr GIG y trefniadau arfaethedig i asesu a gofalu am fenywod â mewnblaniadau bron silicon. Mae copi o’r llwybr gofal ar gael ar y wefan hon.