Skip to content

Gwasanaethau Fferyllol a Phresgripsiynau

Dolenni perthnasol

Cynnig cymorth i Lywodraeth Cymru drwy roi cyngor proffesiynol ac annibynnol ar faterion fferyllol.
Pan fyddwch yn sâl a bod angen i chi weld meddyg teulu, bydd y meddyg yn penderfynu ar sail glinigol a oes angen meddyginiaeth ar bresgripsiwn arnoch i wella’ch iechyd.

Mae’r Gangen Gwasanaethau Fferyllol a Phresgripsiynau’n rhan o’r Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd Cymunedol, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd. Mae’n ystyried materion polisi sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau fferyllol i boblogaeth Cymru.

Amcanion:

  • Darparu polisïau a chyfeiriad clir i GIG Cymru sy’n sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol yn effeithiol i’r boblogaeth.
  • Datblygu gwasanaethau fferyllol modern sy’n canolbwyntio ar y claf.

Meysydd allweddol:

  • Dyletswyddau ysgrifenyddol mewn perthynas â phenderfynu ar apelau ynglŷn â lleoliad fferyllfeydd.
  • Monitro’r Cynllun Incwm Isel yng Nghymru.
  • Monitro a datblygu Ffurflenni’r GIG.
  • Presgripsiynau am ddim
  • Gwasanaethau ocsigen yn y cartref
  • Y Contract Fferylliaeth
  • Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG)
  • Gwasanaethau Presgripsiwn Atebion Iechyd Cymru (HSW)

Dolenni Allanol Perthnasol

Gwasanaeth Gwybadaeth Iechyd Cymru (HOWIS)

Atebion Iechnyd Cymru

Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan