Skip to content

Canser

Mae canser yn un o brif achosion marwolaeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â hynny drwy bennu targedau ffurfiol a thrwy weithredu safonau cenedlaethol.

Cafodd y safonau hyn eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2005 ac maent yn ymdrin â gofynion craidd a gofynion o ran datblygu. Maent yn cwmpasu’r 10 prif fath o ganser, sef:

  • canser y fron;
  • canser y colon a’r rhefr;
  • canser yr ysgyfaint;
  • canser gynecolegol;
  • canser rhan uchaf y stumog a’r perfedd;
  • canser wrolegol;
  • canser hematolegol;
  • canser y pen a’r gwddf;
  • canser y chwarren thyroid; a
  • chanser y croen (yn ogystal â gofal lliniarol arbenigol).

At hynny, mae Safonau Canser Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Sarcoma 2009 a Safonau Canser Cenedlaethol ar gyfer Adsefydlu Oedolion sy’n Gleifion Canser 2010 wedi cael eu datblygu ers hynny. Maent yn cynrychioli’r elfennau o ofal canser y dylai cleifion ddisgwyl eu cael ar hyd y llwybr cyfan y byddant yn ei ddilyn fel cleifion.  

Mae’r safonau yn adlewyrchu newid pwyslais, sy’n golygu y rhoddir pwyslais ar yr amser aros rhwng dyddiad cyfeirio’r claf a dyddiad dechrau’r driniaeth, gan sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth ar gyfer canser yn gyflym. Dylai cleifion a gyfeiriwyd ar frys gan eu meddyg teulu yn dilyn amheuaeth eu bod yn dioddef o ganser, a gadarnheir gan yr arbenigwr canser, ddechrau ar eu triniaeth cyn pen deufis i’r ysbyty gael gwybod eu bod yn cael eu cyfeirio ato, os cânt ddiagnosis.

Dylai unrhyw gleifion na chânt eu cyfeirio ar frys i ddechrau yn dilyn amheuaeth eu bod yn dioddef o ganser, ond y cadarnheir wedyn eu bod yn dioddef o ganser, ddechrau ar eu triniaeth cyn pen mis i ddyddiad y diagnosis.  

Cydymffurfio

Caiff y safonau eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r arfer a’r canllawiau clinigol gorau a’u bod yn cydymffurfio â’r safonau canser a lunnir gan weddill y Deyrnas Unedig.

Cynnydd 

Mae’r tri Rhwydwaith Canser yn ganolog i’r broses o weithredu safonau canser ledled Cymru. Maent wedi’u sefydlu i gwmpasu:

  • Gogledd Cymru;
  • Canolbarth a De-orllewin Cymru; a
  • De-ddwyrain Cymru.

Maent yn cynnwys y sefydliadau sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau canser neu sydd â diddordeb uniongyrchol mewn darparu gwasanaethau o’r fath. Maent yn canolbwyntio ar daith y claf o’r adeg y caiff ei gyfeirio gan y meddyg teulu i’r adeg y caiff driniaeth briodol, ac maent yn canolbwyntio ar rannu arfer gorau ar draws ardaloedd y tri rhwydwaith.

Penodwyd prif gynghorydd canser a chlinigydd canser arweiniol i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i Lywodraeth ynghylch datblygu gwasanaethau canser yn strategol. Mae’r Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser yn sicrhau bod clinigwyr a phobl eraill yn y GIG yn cael eu dwyn ynghyd i gynorthwyo a chynghori Llywodraeth a’r rhwydweithiau canser.  

Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser (dolen allanol)

Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru (dolen allanol)                                        

Rhwydwaith Canser De-ddwyrain Cymru (dolen allanol) 

Rhwydwaith Canser Gorllewin De Cymru (dolen allanol)