Skip to content

Ffrwythlondeb

Mae polisi’r GIG yn egluro’r meini prawf ar gyfer cael gwasanaethau ffrwythlondeb arbenigol a ariennir gan y GIG i gleifion yng Nghymru.

Gwasanaethau Ffrwythlondeb Arbenigol

Caiff y gwasanaeth ei gomisiynu gan Gomisiwn Iechyd Cymru a’i ddarparu drwy gyfrwng canolfannau gofal trydyddol.

Fel rheol bydd gynecolegwyr mewn Ysbytai Cyffredinol ledled Cymru yn cynnal archwiliadau cychwynnol o gleifion, a byddant yn eu cyfeirio wedyn at y canolfannau arbenigol.  Mewn unrhyw system gofal iechyd, gosodir terfynau ar yr hyn sydd ar gael a’r hyn y gall pobl ei ddisgwyl.  Diben y meini prawf yw sicrhau bod y terfynau ar driniaeth ffrwythlondeb yn deg, yn glir ac yn amlwg.

I weld copi o’r polisi a’r gweithdrefnau comisiynu sy’n ymwneud â Gwasanaethau Ffrwythlondeb Arbenigol, ewch i wefan Gwefan Comisiwn Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (dolen allanol)

Mae’r wybodaeth yn egluro’r hyn y bydd gan bobl hawl iddo a’r gwasanaeth a ddarperir gan y GIG o safbwynt Ffrwythloni In Vitro (IVF) a chwistrelliad sberm mewnsytoplasmig (ICSI). Mae hefyd yn egluro’r cyfrifoldebau o ran comisiynu a’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau.