Skip to content

Rhoi organau

Dolenni perthnasol

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn â’r nod o ddiweddaru adolygiad systematig sy’n bodoli.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig gorolwg cyffredinol o ymchwil sy’n bodoli yn cynnwys teuluoedd rhoddwyr organau posibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r nifer yr organau a meinweoedd sydd ar gael i’w trawsblannu.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r canfyddiadau llinell sylfaen ar gyfer monitro newidiadau yn agweddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o’r system rhoi organau.
Bobl

Rydym wedi ymrwymo i ymdrechion parhaus i gynyddu cyfraddau rhoi organau.


Sgwrs calon-agored gyda theulu a ffrindiau 

Logo Calon i Galon Gall gwybod dymuniadau eich gilydd am roi organau helpu i osgoi dryswch ar y mater a gallai achub nifer o fywydau yn y tymor hir.

Mae penderfyniad teuluoedd i wrthod rhoi organau yn ffactor sy’n effeithio’n fawr ar niferoedd rhoi organau, a’r prif reswm dros wrthod yw diffyg gwybodaeth am ddymuniadau anwyliaid.

Pan fo teuluoedd yn gorfod wynebu penderfyniad anodd ynglŷn â rhoi organau perthynas, maent yn aml yn dweud ‘na’ gan nad ydynt yn siŵr o’r hyn fyddai’r person ymadawedig eisiau ei wneud.

Mae ymchwil yn awgrymu bod perthnasau agos yn cytuno i gymryd rhan yn y broses o roi mewn 90% o achosion os yw aelodau’r teulu yn gwybod mai rhoi organau yw dymuniad yr ymadawedig.

Mae’r un ymchwil yn dangos bod perthnasau agos sy’n ymwybodol o ddymuniadau’r ymadawedig ynglŷn â rhoi organau, fel rheol, yn dilyn y dymuniadau hynny, boed hynny’n rhoi organau neu beidio. Hefyd, mae’r perthnasau agos yn teimlo nad ydynt yn gorfod gwneud y penderfyniad ar ben eu hunain gan eu bod yn dilyn dymuniadau hysbys eu hanwyliaid.

Felly gwnewch addewid heddiw eich bod am gael sgwrs Calon i Galon gyda’ch teulu. Mae manylion am sut i gofrestru eich dymuniad i roi organau i’w cael ar waelod y dudalen.

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Cyflwynwyd Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ragfyr y 3ydd 2012. Mae’r Bil yn cyflwyno system feddal o optio allan er mwyn cydsynio i roi organau a meinweoedd pobl a fu farw yng Nghymru.

Nod y Bil yw cynyddu’r nifer o organau a meinweoedd sydd ar gael ar gyfer trawsblannu. Bydd pobl Cymru yn elwa o hyn gan y bydd yn lleihau’r nifer o bobl sy’n marw wrth ddisgwyl am organ addas a thrwy wella safon byw eraill.

Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, bydd ymgyrch sylweddol ddwy flynedd yn dilyn er mwyn addysgu’r cyhoedd a gwneud yn siŵr bod ganddynt yr holl wybodaeth am beth fydd y newidiadau yn golygu a’r dewisiadau sydd ar gael.

Mae’r Bil a manylion am y broses ddeddfwriaethol i’w cael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

System feddal o optio allan

Bydd system feddal o optio allan yn golygu y byddai person sydd heb optio allan o fod yn rhoddwr yn cael ei ystyried i fod yn fodlon i’w horganau gael eu hystyried ar gyfer rhoi petaent nhw’n marw mewn sefyllfa lle bo rhoi yn bosibilrwydd. Mewn system feddal o optio allan, bydd teulu’r ymadawedig yn parhau i fod yn rhan o’r penderfyniad ynglŷn â’r rhoi ac yn cael cyfle i ddweud os oes unrhyw dystiolaeth nad oedd yr ymadawedig am roi caniatâd.

O dan y gyfraith newydd, ystyrir y bydd oedolion sy’n byw ac yn marw yng Nghymru wedi cydsynio i roi eu horganau oni bai eu bod wedi:

  • Cofrestru dymuniad i fod yn rhoddwr (optio i mewn) neu 
  • Cofrestru dymuniad i beidio â bod yn rhoddwr (optio allan)

Bydd angen i bobl fod dros 18 oed ac wedi byw yng Nghymru ers 6 mis neu ragor er mwyn i’r gyfraith gydsynio fod yn berthnasol iddyn nhw. O dan y system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd, bydd y gyfraith yn gadael i berthnasau ddarparu gwybodaeth i ddangos nad oedd y person ymadawedig yn dymuno cydsynio. Bydd pobl nad yw’r gallu ganddynt i ddeall bod modd i gydsyniad gael ei ystyried yn cael eu heithrio o’r system newydd hon hefyd.

Ein bwriad yw dod â’r gyfraith newydd i rym yn 2015. Caiff pobl ddigon o wybodaeth ac amser i benderfynu beth i’w wneud cyn hynny.

Pam?

Trawsblannu organau a meinweoedd yw un o’r dulliau mwyaf llwyddiannus o driniaeth feddygol. Gall un rhoddwr wella neu arbed bywydau hyd at naw o bobl eraill drwy roi organau, a llawer mwy drwy roi meinweoedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod o blaid rhoi organau ac y byddent yn barod i dderbyn organ os byddai angen hynny arnyn nhw, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyfraddau rhoi organau nac yn niferoedd y bobl ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIC.

O ganlyniad i nifer o welliannau, mae Cymru wedi gweld cynnydd o 49 y cant yn y cyfraddau rhoi organau ers 2008. Er hyn, mae prinder organau i’w trawsblannu o hyd. Yn 2011/12, bu farw 41 o bobl yng Nghymru wrth ddisgwyl am organ.

Ychydig iawn o bobl sy’n marw mewn amgylchiadau lle bo modd rhoi organau. Felly mae’n bwysig cael system yn ei lle i sicrhau bod y niferoedd uchaf posibl o roddwyr.

Sut alla i gofrestru i fod yn rhoddwr nawr?

Gall aelodau o’r cyhoedd ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIC mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:

  • cofrestru ar-lein;
  • cysylltu â Llinell Rhoddwyr y GIC (0300 123 23 23); 
  • wrth gofrestru, neu adnewyddu, am drwydded yrru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA); 
  • cofrestru gyda meddyg teulu;
  • wrth wneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd; a 
  • gwneud cais am Gerdyn Mantais Boots.