- Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd os ydych am roi eich organau a meinweoedd ar ôl ichi farw?
- Beth sy’n digwydd nawr os nad ydych yn dymuno rhoi eich organau ar ôl marw?
- I ba raddau mae Cymru wedi cyflawni’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Tasglu Rhoi Organau yn 2008?
- Pam y cwympodd y niferoedd a roddodd organau yng Nghymru yn 2012/13?
- Pa newidiadau sy’n cael eu cynnig?
- Pryd fydd y newidiadau hyn yn dod i rym?
- Pam rydych chi’n cynnig newid i’r system gyfredol o optio i mewn?
- Beth yw effeithiau’r prinder organau cyfredol?
- Beth yw manteision cyflwyno system feddal o optio allan?
- Pa dystiolaeth sy’n bodoli fod pobl yn cefnogi rhoi organau ac y byddent yn barod i dderbyn newid yn y system?
- Beth fydd y ddeddfwriaeth yn ei wneud?
- Beth yw cydsyniad a ystyrir, pwy fydd yn gymwys a sut y bydd yn gweithio’n ymarferol?
- Beth yw cydsyniad datganedig, pwy fydd yn gymwys a sut y bydd yn gweithio’n ymarferol?
- Pa organau a meinweoedd fydd yn cael eu cynnwys o fewn y system feddal o optio allan?
- A gaiff trawsblaniadau ‘newydd’ eu cynnwys, fel yr wyneb, y coesau a’r breichiau?
- Beth yw rôl aelodau’r teulu mewn achosion o gydsyniad a ystyrir?
- Beth ydych chi’n ei olygu wrth ddweud eich bod yn mynd i roi’r hawl i aelodau’r teulu wrthwynebu ar sail dymuniadau’r ymadawedig?
- Beth am bobl na ellir cysylltu â’u teulu, ond sydd wedi cofrestru eu dymuniad i fod yn rhoddwyr?
- Pam fod teuluoedd yn cael stopio’r broses roi, hyd yn oed o dan y system bresennol, os yw rhywun ar y gofrestr rhoddwyr organau?
- A fyddai aelodau’r teulu yn gallu gwrthdroi penderfyniad i optio allan a gofnodwyd?
- Sut y byddwch chi’n penderfynu pwy sy’n byw yng Nghymru?
- Beth sy’n digwydd os wyf yn byw yng Nghymru ond yn marw yn Lloegr?
- Sut y bydd y system feddal o optio allan yn gweithio i’r rhai sydd heb alluedd meddyliol?
- Pa system fyddwch chi’n ei defnyddio i gofnodi dymuniadau unigolyn o dan y system feddal o optio allan?
- Sut y bydd pobl yn gallu optio allan?
- Sut y galla i gofrestru fy ngwrthwynebiad?
- A fydd penderfyniad i beidio â bod yn rhoddwr byth yn cael ei wrthdroi?
- A fydd y Gofrestr Rhoi Organau bresennol yn cael ei chadw yng Nghymru?
- A fydd cyfle i optio allan o roi rhai organau a meinweoedd?
- Beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn cyrraedd 18 oed, yn symud i Gymru neu oddi yno, neu’n newid ei feddwl?
- Beth yw’r costau tebygol o gyflwyno cynllun meddal o optio allan yng Nghymru?
- Pa gynlluniau sydd gennych ar y gweill i gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd?
- A fydd system optio allan yn golygu newid yn y ffordd y gofelir am gleifion, gan gynnwys y driniaeth a roddir iddynt yn y cyfnod cyn iddyn nhw farw ac wrth iddyn nhw farw?
- Sut y bydd organau a roddir o dan y system cydsyniad a ystyrir yn cael eu defnyddio?
Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd os ydych am roi eich organau a meinweoedd ar ôl ichi farw?
Ar hyn o bryd mae system optio i mewn yn bodoli lle bydd pobl yn cydsynio i roi eu horganau a meinweoedd drwy ymuno â Chofrestr Rhoi Organau y GIG.
Mae’r system hon yn dibynnu i raddau helaeth ar bobl yn datgan beth yw eu dymuniad, ac mae hyn yn cyflwyno her ar unwaith gan mai dim ond tua 30 y cant o’r boblogaeth sydd ar y Gofrestr Rhoi Organau. O ganlyniad ni fydd llawer o bobl yn rhoi eu horganau i’w trawsblannu ar ôl marw er nad oes ganddynt mewn gwirionedd unrhyw wrthwynebiad i hynny ac y gallent fod wedi gwneud hynny. Ond yn aml nid yw’r teuluoedd yn gwybod beth fyddai eu perthynas ymadawedig wedi’i ddymuno.
Ar hyn o bryd mae oddeutu traean y rhoddwyr ymadawedig yn dod o blith pobl a ddywedodd eu bod yn dymuno bod yn rhoddwyr ac a ymunodd â’r Gofrestr Rhoi Organau.
Mae dwy ran o dair o’r rhoddwyr felly yn bobl nad oeddent ar y Gofrestr o gwbl. Yn y mwyafrif helaeth o achosion, felly, nid ydym yn gwybod beth yw dymuniadau pobl. Mewn achosion o’r fath y teuluoedd fydd yn gwneud y penderfyniad i roi organau, ond weithiau ni theimlant y gallant gytuno i hynny gan nad ydynt yn gwybod beth fyddai dymuniad eu perthynas.
Beth sy’n digwydd nawr os nad ydych yn dymuno rhoi eich organau ar ôl marw?
Os nad ydych am roi eich organau, ar hyn o bryd nid oes ffordd o gofnodi’n ffurfiol eich dymuniadau ac mae’n rhaid ichi wneud eich safbwyntiau’n glir i’ch teulu neu eu rhoi ar bapur. Ond nid oes dim all atal aelodau’r teulu rhag cydsynio i roi eich organau ar ôl ichi farw os ydynt yn dewis gwneud hynny.
I ba raddau mae Cymru wedi cyflawni’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Tasglu Rhoi Organau yn 2008?
Rydym wedi cymryd camau breision yng Nghymru diolch i ymroddiad timau’r Byrddau Iechyd a Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG. Rhoddwyd naw o’r pedwar argymhelliad ar ddeg a gyflwynodd y Tasglu Rhoi Organau ar waith yn llawn yng Nghymru ac mae gwaith ar y gweill i roi’r gweddill ar waith.
Roedd cyfran helaeth o argymhellion y Tasglu yn ymwneud â newid arferion clinigol, yn enwedig o ran atgyfeirio a’r dull gweithredu. Gwnaed cynnydd sylweddol mewn meysydd fel datblygu llwybrau a chanllawiau clinigol, penodi nyrsys arbenigol ac arweinwyr clinigol penodol ar gyfer rhoi organau yn yr unedau gofal critigol a Phwyllgor Rhoi Organau ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.
Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae oddeutu 250 o bobl yng Nghymru ar y rhestr aros am drawsblaniad ar unrhyw adeg, ac yn 2011/12, bu farw rhyw dri o bobl y mis wrth aros am drawsblaniad.
Credwn fod angen inni, ar ôl sefydlu’r seilwaith, gymryd y cam rhesymegol o gyflwyno’r ddeddfwriaeth gywir er mwyn sicrhau cynnydd pellach yn y gyfradd gydsynio. Dyma y bydd ein system feddal o optio allan yn ei wneud.
Pam y cwympodd y niferoedd a roddodd organau yng Nghymru yn 2012/13?
Mae nifer y rhoddwyr organau ymadawedig wedi dilyn tuedd gadarnhaol yng Nghymru, ar y cyfan, yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Er enghraifft, bu cynnydd o 49 y cant yn nifer y rhoddwyr ymadawedig
yn 2011/12 o gymharu â 2007/08.
Mae amrywiadau yn y ffigurau hyn i’w disgwyl a chan fod y niferoedd sy’n ffurfio’r ystadegau hyn yn gymharol fach, gall mân newidiadau yn y niferoedd effeithio’n fawr ar y darlun cyffredinol. Y duedd, yn hytrach na’r newidiadau mewn un flwyddyn, sy’n dweud y stori bwysig.
Nid oes tystiolaeth benodol fod cysylltiad rhwng deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ar roi organau a’r cwymp yn nifer y rhoddwyr. Credwn mai system o gydsyniad a ystyrir yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i’w trawsblannu, ac arbed bywydau.
Pa newidiadau sy’n cael eu cynnig?
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2012. Mae’r Bil yn cynnig system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd i oedolion sy’n byw ac yn marw yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu yr ystyrir bod cydsyniad yr unigolyn i roi ei organau a’i feinweoedd eisoes wedi’i roi oni bai ei fod wedi cofrestru ei ddymuniad i fod yn rhoddwr, neu i beidio â bod yn rhoddwr. Ond bydd perthnasau’r ymadawedig yn dal i fod â rôl bwysig i’w chwarae yn y broses. Ni fyddai unrhyw organau’n cael eu rhoi oni fydd rhywun sy’n agos i’r ymadawedig yn bresennol.
Pryd fydd y newidiadau hyn yn dod i rym?
Mae’r Bil yn mynd drwy’r broses craffu deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Os bydd y Cynulliad yn pasio’r Bil, gallai dderbyn Cydsyniad Brenhinol erbyn haf / hydref 2012.
Ni fydd y system newydd yn dod i rym tan 2015, fodd bynnag. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynnal ymgyrch ddwy flynedd eang i ledaenu gwybodaeth, er mwyn sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn gwybod beth fydd y newidiadau yn ei olygu a’r dewisiadau sydd ganddynt.
Pam rydych chi’n cynnig newid i’r system gyfredol o optio i mewn?
Mae prinder organau a meinweoedd dynol yn dal i achosi marwolaethau a dioddefaint diangen, i gleifion sy’n aros am drawsblaniad ac i’w perthnasau. Rydyn ni o’r farn y bydd system feddal o optio allan yn cynyddu nifer yr organau a’r meinweoedd fydd ar gael i’w trawsblannu. Mae tystiolaeth ryngwladol yn ategu hyn drwy awgrymu bod cysylltiad rhwng gwledydd sydd â systemau optio allan a chynnydd yn y gyfradd roi.
Trawsblannu organau a meinweoedd yw un o’r triniaethau meddygol modern mwyaf llwyddiannus, ac mae hefyd yn gost-effeithiol iawn. Gall un rhoddwr wella neu arbed bywydau hyd at naw o bobl eraill drwy roi ei organau, a llawer mwy o bobl drwy roi ei feinweoedd.
Llwyddodd ymgyrchoedd i annog pobl i ymuno â’r Gofrestr Rhoddwyr Organau i gynyddu nifer y bobl sy’n mynegi dymuniad i fod yn rhoddwyr organau. Yng Nghymru, mae mwy na thraean y boblogaeth bellach ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau, a gwelwyd cynnydd o 49 y cant yn y cyfraddau rhoi organau yn 2011/12 o gymharu â 2008. Ond er gwaethaf pob ymdrech, prin yw’r organau sydd ar gael i’w trawsblannu o hyd.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn bryd newid y gyfraith a chyflwyno system feddal o optio allan.
Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod na fydd un cam yn unig, fel cyflwyno newid i’r system gydsynio i roi organau a meinweoedd, yn sicrhau’r holl gynnydd sydd ei angen o ran rhoi organau. Mae gwaith arall yn parhau sy’n golygu bod y trefniadau ar gyfer rhoi a thrawsblannu organau wedi gwella, ac mae systemau gwell a rhagor o staff bellach yn eu lle.
Beth yw effeithiau’r prinder organau cyfredol?
Yng Nghymru, yn 2011/12, bu farw 37 o bobl gan nad oedd modd dod o hyd i roddwr i alluogi’r trawsblaniad. Ar draws y Deyrnas Unedig mae dros 500 o bobl yn marw bob blwyddyn tra byddant yn aros am drawsblaniad.
Trawsblannu organau a meinweoedd yw un o’r dulliau mwyaf effeithiol o driniaeth feddygol fodern sy’n arbed bywydau ac yn gwella ansawdd bywyd i gleifion sydd â’u horganau’n methu.
Beth yw manteision cyflwyno system feddal o optio allan?
Y brif fantais yw cynyddu nifer y rhoddwyr organau a meinweoedd yng Nghymru sy’n arwain at arbed mwy o fywydau a gwella ansawdd bywydau pobl.
Ychydig iawn ohonom fydd byth yn marw mewn amgylchiadau lle bydd rhoi organau yn bosibilrwydd. Felly mae’n bwysig cael system yn ei lle i sicrhau bod y niferoedd uchaf posibl o roddwyr yn cael eu nodi.
Mae systemau optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau eisoes yn eu lle mewn nifer o wledydd Ewrop ac mewn mannau eraill. Mae eu llwyddiant yn amrywio ac yn ddibynnol ar nifer o ffactorau eraill. Ond mae ymchwil yn awgrymu bod cynnydd o rhwng 25 a 30 y cant yn y gyfradd rhoi organau gan bobl sydd wedi marw mewn gwledydd lle mae’r system optio allan yn bodoli. Gallai cynnydd tebyg yng Nghymru olygu 15 neu 16 o roddwyr ychwanegol ac oddeutu 45 o organau ychwanegol ar gael i’w rhoi.
Yn ariannol, bydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth i’r GIG yng Nghymru, gan nad oes angen i bobl sy’n cael trawsblaniad gael triniaeth ddrud neu hirdymor fel dialysis arennol. Bydd modd ail-fuddsoddi’r arian sy’n cael ei arbed mewn gwasanaethau i gleifion eraill.
Mae pobl sydd wedi cael trawsblaniadau hefyd yn cael gwell ansawdd bywyd ac yn dibynnu llai o lawer ar wasanaethau eraill, fel gofal cymdeithasol. Mae hyn yn well i’r claf ac yn helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau hefyd.
Pa dystiolaeth sy’n bodoli fod pobl yn cefnogi rhoi organau ac y byddent yn barod i dderbyn newid yn y system?
Os gofynnir iddynt, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gefnogol iawn i roi organau mewn egwyddor. Byddai’r mwyafrif llethol hefyd yn barod i dderbyn organ neu feinwe os byddai angen hynny arnyn nhw neu aelod o’u teulu. Mae’r holl brif grefyddau hefyd yn cefnogi rhoi a thrawsblannu organau.
Holodd Llywodraeth Cymru am farn pobl ar y mater hwn yn gyntaf yn 2008/09, gan arwain at yr ymgynghoriad ‘Opsiynau ar gyfer newid y system rhoi organau yng Nghymru’. Roedd mwyafrif yr ymatebion i’r ymgynghoriad (81 y cant) yn cefnogi newid yn y system rhoi organau yng Nghymru i’r system feddal o optio allan.
Cyhoeddi’r Papur Gwyn oedd y cam cyntaf yn natblygiad y Bil ac roedd yn gofyn am sylwadau’r cyhoedd ar ein cynigion. Er nad oedd y Papur Gwyn yn ymgynghori ar egwyddor y ddeddfwriaeth, cymerodd 52% o’r 1,234 o ymatebwyr i’r ymgynghoriad y cyfle i nodi eu bod yn cefnogi’r polisi, ac roedd 39% yn ei wrthwynebu.
Yn ychwanegol at hyn, cynhaliodd Beaufort Research Limited gyfres o Grwpiau Ffocws i gefnogi’r ymgynghoriad ffurfiol. Roedd cyfranogwyr y grwpiau ffocws yn cynrychioli amrywiaeth o oedrannau a nifer o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. Roedd y cyfranogwyr o blaid rhoi organau.
Roedd Arolwg Barn Dydd Gŵyl Dewi y BBC a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2012 yn dangos bod 63% o’r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi cyflwyno system o optio allan o roi organau.
Beth fydd y ddeddfwriaeth yn ei wneud?
Mae’r Bil yn nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cydsynio i roi organau a meinweoedd i’w trawsblannu yng Nghymru. Mae’n cwmpasu gweithgareddau trawsblannu ar gyfer rhoddwyr byw a rhoddwyr ymadawedig yng Nghymru.
Mae’r Bil yn creu dau fath newydd o gydsynio cyfreithiol i roi organau a meinweoedd yng Nghymru – cydsyniad datganedig a chydsyniad a ystyrir. Dim ond yn achos rhoi ar ôl marw y bydd cydsyniad datganedig yn berthnasol.
Y prif newid i’w gyflwyno gan y Bil drafft fydd trin y bobl hynny nad ydynt wedi optio allan fel bod ganddyn nhw ddim gwrthwynebiad i roi organau. Bydd rhaid i oedolyn fod wedi byw yng Nghymru ers mwy na 6 mis cyn iddo farw cyn y bydd cydsyniad a ystyrir yn berthnasol iddo.
Bydd y newid hwn yn effeithio ar oedolion sy’n byw ac yn marw yng Nghymru yn unig. Ni fydd cydsyniad a ystyrir yn cael ei ddefnyddio yn achos pobl nad oes ganddyn nhw’r gallu i ddeall y trefniadau ar gyfer cydsyniad a ystyrir.
Beth yw cydsyniad a ystyrir, pwy fydd yn gymwys a sut y bydd yn gweithio’n ymarferol?
Cydsyniad a ystyrir fydd y prif newid a gyflwynir gan y Bil. Bydd yn effeithio ar bobl dros 18 oed sy’n byw ac yn marw yng Nghymru. Ni fydd cydsyniad a ystyrir yn berthnasol i roddwyr byw.
Bydd angen i unigolion fod yn “preswylio fel arfer” yng Nghymru am 6 mis neu ragor er mwyn i’r gyfraith ar gydsyniad a ystyrir fod yn berthnasol iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n astudio’n llawn amser yng Nghymru neu’r rheini sy’n gweithio yng Nghymru am gyfnod sefydlog.
Nid yw preswylio fel arfer yn cynnwys carcharorion na phobl eraill sydd ddim yn byw yng Nghymru o’u gwirfodd, fel aelodau’r lluoedd arfog. Y rheswm dros yr isafswm cyfnod o 6 mis yw er mwyn rhoi digon o amser i bobl ddod i ddeall y gyfraith newydd a chael cyfle i optio allan, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Yn y categori hwn, ystyrir fod oedolion wedi cydsynio i roi organau a meinweoedd oni bai:
- eu bod eisoes wedi cydsynio ei hunain drwy ddweud eu bod yn dymuno bod yn rhoddwyr (optio i mewn)
- eu bod eisoes wedi dweud nad ydynt yn dymuno bod yn rhoddwyr (optio allan)
- eu bod wedi penodi cynrychiolydd i wneud penderfyniad ynghylch cydsynio ar eu rhan
- nad yw’r gallu ganddynt i ddeall y gellid ystyried eu bod yn cydsynio
- bod person sydd mewn perthynas ag ef neu hi’n gwrthwynebu ar y sail ei fod yn gwybod beth oedd dymuniadau’r ymadawedig.
Beth yw cydsyniad datganedig, pwy fydd yn gymwys a sut y bydd yn gweithio’n ymarferol?
Mae cydsyniad datganedig yn golygu naill ai:
- gydsyniad a roddir gan unigolyn yn ystod ei oes i fod yn rhoddwr (optio i mewn), neu i beidio â bod yn rhoddwr (optio allan)
- cydsyniad a roddir gan unigolyn sydd mewn “perthynas gymwys” â’r person ymadawedig, os nad yw’r unigolyn yn rhan o’r system cydsyniad a ystyrir (am nad oedd yn byw yng Nghymru ac nad oedd wedi rhoi gwybod beth oedd ei ddymuniad, er enghraifft).
Gall unrhyw un roi cydsyniad datganedig yn ystod ei oes, gan gynnwys plant a phobl ifanc dan 18 oed a phobl nad yw’r gallu ganddynt i gydsynio (y gellir eu cynorthwyo i wneud penderfyniad).
Pa organau a meinweoedd fydd yn cael eu cynnwys o fewn y system feddal o optio allan?
Bydd yr organau a meinweoedd sy’n cael eu cynnwys o fewn y system feddal o optio allan yr un peth â’r system bresennol. Ymysg yr organau a meinweoedd hyn mae arennau, y galon, yr afu, yr ysgyfaint, y pancreas, y coluddyn bach, cornbilennau a gwyn y llygaid, falfiau a philen y galon, y croen, esgyrn, tendonau a chartilagau.
A gaiff trawsblaniadau ‘newydd’ eu cynnwys, fel yr wyneb, y coesau a’r breichiau?
Ni fydd cydsyniad a ystyrir yn berthnasol i fathau ‘newydd’ o drawsblaniadau, fel y’u gelwir. Mae’r mathau o drawsblaniadau sy’n cael eu trafod (fel y dwylo, yr wyneb) yn cael eu hadnabod fel trawsblaniadau meinwe cyfansawdd a hyd yn oed o dan y system bresennol, rydym yn trin y rhain yn wahanol.
Y drefn ar hyn o bryd yw bod angen cydsyniad datganedig aelodau’r teulu hyd yn oed os yw’r person ymadawedig ar y Gofrestr Rhoi Organau. Mae’r Awdurdod Meinweoedd Dynol wedi ategu’r trefniadau hyn.
Dim ond dau dîm drwy’r Deyrnas Unedig gyfan sydd wedi cynnal nifer fach o driniaethau rhoi/trawsblannu newydd ar hyn o bryd (fel trawsblannu braich neu goes). Mae’r timau hyn yn Llundain a Leeds.
Nid oes gennym gyfleusterau ar gyfer triniaethau fel hyn yng Nghymru.
Mae’r timau sy’n rhoi triniaethau fel hyn yn derbyn cydsyniad penodol ac ar wahân oddi wrth berthynas cymwys. Bydd y Rheoliadau yn nodi pa organau fydd ddim yn rhan o’r trefniadau cydsyniad a ystyrir.
Beth yw rôl aelodau’r teulu mewn achosion o gydsyniad a ystyrir?
Bydd gan unigolion sy’n agos at yr ymadawedig ran bwysig iawn bob amser mewn unrhyw drafodaeth am roi organau.
Mae’n hanfodol cynnwys y teulu mewn sefyllfa o gydsyniad a ystyrir er mwyn rhoi hanes meddygol a manylion preswylio’r ymadawedig, yn ogystal â gwirio’i alluedd meddyliol, o bosib (sicrhau nad yw’r unigolyn yn “oedolyn eithriedig” o ran y trefniadau cydsyniad a ystyrir).
Rhaid iddyn nhw hefyd fod yn bresennol er mwyn gallu rhoi gwybodaeth am ddymuniadau’r ymadawedig a’u gwarchod. Bydd teuluoedd yn gallu gwrthwynebu rhoi o dan system gydsynio a ystyrir os gwyddant na fyddai’r person ymadawedig wedi dymuno bod yn rhoddwr.
Mae’n dilyn felly nad ystyrir fod unigolyn yn cydsynio os na ellir cysylltu ag aelodau’r teulu, oherwydd ni ellir tybio y byddai’n ddiogel gwneud hynny. Nid ystyrir felly fod cydsyniad wedi’i roi os na fydd aelodau’r teulu yn bresennol.
Beth ydych chi’n ei olygu wrth ddweud eich bod yn mynd i roi’r hawl i aelodau’r teulu wrthwynebu ar sail dymuniadau’r ymadawedig?
Bydd hawl clir i aelodau’r teulu wrthwynebu ar sail dymuniadau’r ymadawedig yn cael ei ddarparu ar wyneb y Bil. Os nad yw rhywun yn cymryd camau i gofnodi dymuniad i optio i mewn nac i optio allan, mae’n gwneud hynny gan wybod ei fod yn cydsynio i roi.
Mae caniatáu i bobl wybod dymuniadau’r ymadawedig i wrthwynebu yn amddiffyniad pwysig iawn o dan system cydsyniad a ystyrir, gan roi blaenoriaeth i ddymuniadau’r ymadawedig a chaniatáu i aelodau’r teulu wrthbrofi’r rhagdybiaeth fod cydsyniad wedi’i roi ar yr un pryd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r hyn sy’n gyffredin yn Ewrop.
Beth am bobl na ellir cysylltu â’u teulu, ond sydd wedi cofrestru eu dymuniad i fod yn rhoddwyr?
Os yw unigolyn ar y gofrestr rhoddwyr organau (h.y. wedi optio i mewn) yna mae eisoes wedi rhoi cydsyniad datganedig ac nid oes angen ceisio cydsyniad pellach aelodau’r teulu, yn ôl y gyfraith.
Gellid ystyried felly ei bod yn rhesymol bwrw ymlaen ar sail dymuniadau’r rhoddwr, fel y cawsant eu datgan.
Er bod hyn wedi digwydd, efallai, mewn nifer fach iawn o achosion, ni chredir bod bwrw ymlaen heb fod aelodau’r teulu yn bresennol yn arfer da. Y rheswm am hyn yw bod amryw o gwestiynau yn cael eu gofyn iddynt am ffordd o fyw a hanes meddygol yr ymadawedig. Diben y rheini yw sicrhau ansawdd organau sy’n cael eu rhoi a diogelwch y sawl sy’n eu derbyn.
Mae bwrw ymlaen heb ofyn y cwestiynau hyn yn rhoi’r cyfrifoldeb ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i asesu’r perygl i’r sawl sy’n derbyn yr organ os cymerir organau gan roddwr heb allu gwirio ei hanes meddygol a’i ffordd o fyw gydag aelodau’r teulu, am nad oeddent yno.
Pam fod teuluoedd yn cael stopio’r broses roi, hyd yn oed o dan y system bresennol, os yw rhywun ar y gofrestr rhoddwyr organau?
Nid oes gan deuluoedd hawl gyfreithiol i wrthwynebu rhoi yn yr achosion hyn, fel ar hyn o bryd, ond yn ymarferol nid yw’n debygol y byddai meddygon yn bwrw ymlaen â’r driniaeth os yw’r teulu mewn trallod difrifol.
Mae dyletswydd ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i fod yn sensitif i aelodau’r teulu ac ni ellir eu gorfodi i wneud rhywbeth sy’n groes i’w cydwybod.
A fyddai aelodau’r teulu yn gallu gwrthdroi penderfyniad i optio allan a gofnodwyd?
Os yw rhywun wedi optio allan o roi organau, yna mae’n amlwg bod rhaid parchu ei ddymuniadau ac na ddylid cymryd unrhyw organau.
Pe byddai’r claf wedi gallu rhoi organau, ond ei fod wedi optio allan, yna mae’n debyg y rhoddir gwybod i’r teulu am y sefyllfa, er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw.
Dim ond os cyfyd sefyllfa annhebygol iawn bod aelodau’r teulu yn gallu darparu tystiolaeth eglur fod yr unigolyn wedi newid ei feddwl y gellid ystyried gwrthdroi’r sefyllfa hon.
Sut y byddwch chi’n penderfynu pwy sy’n byw yng Nghymru?
Er mwyn penderfynu a yw unigolyn yn breswylydd yng Nghymru mae’n rhaid iddo fodloni pob cam mewn prawf tri cham, sef:
- a oes ganddo gyfeiriad cyfredol yng Nghymru;
- a yw fel rheol yn byw yn y cyfeiriad hwnnw (yn “preswylio fel arfer”) ; ac
- wedi byw yn y cyfeiriad hwnnw (neu mewn cyfeiriad arall yng Nghymru) ers chwe mis neu ragor.
Ystyrir fod cyfeiriad yng Nghymru os yw ar 'rest'” leol yr awdurdod lleol yng Nghymru. Rhestr yw hon o’r holl gyfeiriadau sy’n hysbys i’r awdurdod lleol ac y byddent yn ei defnyddio, er enghraifft, i anfon ffurflenni cofrestru etholiadol. Defnyddir y system hon yn eang i bennu cyfeiriadau ac fe’i defnyddir er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth ynghylch a yw unigolyn yn preswylio yng Nghymru.
Beth sy’n digwydd os wyf yn byw yng Nghymru ond yn marw yn Lloegr?
Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, bydd y system optio allan yn gymwys i breswylydd yng Nghymru sy’n marw y tu allan i Gymru. Mae hyn yn golygu os yw’r ymadawedig wedi mynegi dymuniad i optio i mewn, bydd y perthynas agosaf yn cael ei annog mewn modd sensitif i dderbyn ei benderfyniad. Ond os nad yw’r ymadawedig wedi mynegi ei ddymuniad, y perthynas agosaf fyddai’n rhoi neu’n gwrthod cydsyniad i roi organau. Os yw unigolyn wedi cofrestru dymuniad i beidio â rhoi organau o dan y trefniadau newydd yng Nghymru, bydd y penderfyniad hwn yn dal i fod yn ddilys, a byddai angen parchu’r penderfyniad os byddai’r unigolyn wedi marw yn Lloegr.
Sut y cânt eu gwarchod?Sut y bydd y system feddal o optio allan yn gweithio i’r rhai sydd heb alluedd meddyliol? Sut y cânt eu gwarchod?
Nid yw’r Bil yn newid gallu unrhyw berson i fynegi, yn ystod ei oes, ei ddymuniad i roi neu beidio â rhoi ei organau, a bydd hefyd yn gallu defnyddio’r gofrestr newydd i fynegi ei ddymuniad. Drwy wneud hynny, ni fydd ei alluedd meddyliol yn cael ei gwestiynu.
Dylid gwneud pob ymdrech i wneud pethau’n haws i’r rheini nad yw’r gallu ganddyn nhw i ddeall y gyfraith newydd ac i wneud penderfyniad yng ngoleuni’r gyfraith honno.
Os nad yw unigolyn wedi mynegi dymuniad i roi neu beidio â rhoi organau, ac yn dilyn trafodaethau â’r teulu, ei bod yn amlwg nad yw’r gallu ganddo i ddeall y gyfraith cydsyniad a ystyrir, nid ystyrir ei fod wedi rhoi ei gydsyniad i roi organau. Yn yr achosion hyn, gofynnir i unigolyn mewn perthynas gymwys neu gynrychiolydd a enwebwyd wneud y penderfyniad ynghylch rhoi organau.
Pa system fyddwch chi’n ei defnyddio i gofnodi dymuniadau unigolyn o dan y system feddal o optio allan?
Bydd un gofrestr a fydd yn cofnodi:
- penderfyniad i roi organau; neu
- penderfyniad i beidio â rhoi organau.
Bydd hefyd yn gallu cofnodi penderfyniadau 'rhannol', h.y. os yw rhywun yn dymuno rhoi rhai o’i organau ond nid y cyfan. Ni fydd pobl sy’n penderfynu peidio â mynegi datganiad un ffordd neu’r llall yn cael eu cynnwys ar y gofrestr.
Sut y bydd pobl yn gallu optio allan?
Byddai’r system feddal o optio allan yn sicrhau system gadarn a diogel lle gall unigolion wrthwynebu rhoi rhai o’u horganau neu bob un o’u horganau, gan felly ddiogelu dymuniadau'r rheini nad ydynt am fod yn rhoddwyr.
Sut y galla i gofrestru fy ngwrthwynebiad?
O dan y system newydd, bydd un gofrestr newydd yn cofnodi dymuniad unigolyn i roi neu beidio â rhoi ei organau. Ni chaiff pobl sy’n penderfynu peidio â mynegi dymuniad, a bod eu cydsyniad yn cael ei ystyried, eu cynnwys ar y gofrestr.
Bydd unigolyn yn gallu cofrestru dymuniad i beidio â rhoi organau mewn sawl ffordd. Bydd modd cofrestru dymuniadau’n uniongyrchol ar-lein, a hefyd bydd ffurflenni a chymorth dros y ffôn i’r rheini nad ydynt yn dymuno defnyddio’r rhyngrwyd. Bydd yr holl ddulliau cofrestru ar gael yn ddwyieithog ac mewn amrywiaeth o ieithoedd eraill.
Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, bydd cyfnod o amser cyn i’r gyfraith newid, gan roi cyfle i bobl optio allan os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Hefyd cynhelir ymgyrch a fydd yn cynghori pobl ar sut y gallant optio allan.
Am y tro, byddai Llywodraeth Cymru yn annog pawb i sicrhau bod y bobl sy’n agos atyn nhw’n ymwybodol o’u dymuniadau o ran rhoi organau.
A fydd penderfyniad i beidio â bod yn rhoddwr byth yn cael ei wrthdroi?
Na fydd. Os yw rhywun wedi cofnodi dymuniad i beidio â bod yn rhoddwr, yna bydd neb yn gofyn i’r teulu gymryd rhan mewn trafodaethau ar roi ei organau. Dim ond mewn achosion prin lle bydd aelod o’r teulu’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig arall, â dyddiad diweddarach, sy’n gwrthdaro â’r gwrthwynebiad cofrestredig, y gellid hyd yn oed ystyried rhoi ei organau.
A fydd y Gofrestr Rhoi Organau bresennol yn cael ei chadw yng Nghymru?
Mae gwaith ar y gweill ar y cyd â gwledydd eraill y DU i benderfynu a ddylid diweddaru’r Gofrestr Rhoi Organau bresennol er mwyn cynnwys datblygiadau mewn gwahanol rannau o’r DU. Bydd pobl yn gallu cofrestru eu dymuniad i fod yn rhoddwr, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn achos y Gofrestr Rhoi Organau.
A fydd cyfle i optio allan o roi rhai organau a meinweoedd?
Bydd. Fel yn achos y trefniadau presennol, gall unigolyn gofrestru ei fwriad i roi ei holl organau a meinweoedd neu ddewis rhoi rhai organau neu feinweoedd penodol.
Beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn cyrraedd 18 oed, yn symud i Gymru neu oddi yno, neu’n newid ei feddwl?
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd unigolyn yn rhan o’r system feddal o optio allan dim ond os yw wedi cael digon o gyfle i wrthwynebu i roi organau.
Bydd angen i’r system feddal o optio allan fod yn ddigon hyblyg i dderbyn newidiadau ar ôl i’r prif drefniadau newydd gael eu cyflwyno. Bydd newidiadau o’r fath yn cynnwys:
- pan fydd unigolyn yn newid ei feddwl, er enghraifft, pan fydd nawr am roi organau ar ôl gwrthwynebu’n flaenorol;
- pobl sy’n symud i Gymru neu oddi yno;
- pobl ifanc sy’n cyrraedd 18 oed.
Beth yw’r costau tebygol o gyflwyno cynllun meddal o optio allan yng Nghymru?
Bydd gweithredu’r ddeddfwriaeth optio allan yn costio rhyw £8 miliwn dros 10 mlynedd. Mae’r costau manwl wedi’u cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Pa gynlluniau sydd gennych ar y gweill i gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd?
O dan y system feddal arfaethedig o optio allan ar gyfer Cymru, ystyrir fod cydsyniad i dynnu a defnyddio organau a meinweoedd wedi’i roi oni fydd yr ymadawedig wedi gwrthwynebu hynny yn ystod ei oes.
Er mwyn sicrhau bod gan unigolion y cyfle i fynegi gwrthwynebiad, rhaid bod gwybodaeth ar gael yn hawdd am y system feddal o optio allan yng Nghymru a bod yr unigolion â’r gallu i ddeall yr wybodaeth sydd ar gael ac i wneud penderfyniad.
Yn ôl y Bil rhaid i Weinidogion Cymru addysgu a rhoi gwybod i’r cyhoedd yng Nghymru am roi organau yn gyffredinol, a’r trefniadau ar gyfer y system feddal o optio allan yn benodol.
Er mwyn bod yn deg â phob dinesydd a diogelu eu hawliau dynol mae’n hanfodol fod yr wybodaeth ar gael a bod pawb yn ei deall. Bydd angen ymgyrch gyhoeddusrwydd eang er mwyn i’r system feddal o optio allan ddod yn gyfraith.
Bydd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn un eang. Bydd yn defnyddio gwahanol gyfryngau ac yn para hyd nes y daw’r gyfraith newydd i rym.
Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol a chymesur i sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod am y ddeddfwriaeth newydd, mewn modd sydd ar gael yn hawdd i bawb.
A fydd system optio allan yn golygu newid yn y ffordd y gofelir am gleifion, gan gynnwys y driniaeth a roddir iddynt yn y cyfnod cyn iddyn nhw farw ac wrth iddyn nhw farw?
Na. Ceir safonau a gweithdrefnau clir a chaeth iawn ar gyfer cadarnhau marwolaeth. Mae clinigwyr sy’n gyfrifol am ofal cleifion a chadarnhau marwolaeth yn annibynnol ar y rheini sy’n gyfrifol am dynnu a thrawsblannu organau. Ni fydd hyn yn newid.
Sut y bydd organau a roddir o dan y system cydsyniad a ystyrir yn cael eu defnyddio?
Nid oes unrhyw fwriad i newid y ffordd y caiff organau a meinweoedd eu dyrannu gan Waed a Thrawsblaniadau’r GIG. Mae hyn yn golygu y gall organau a roddir yng Nghymru groesi’r ffin i Loegr i gael eu defnyddio yno, fel sy’n digwydd yn awr.
Mae’r Bil yn caniatáu i organau a roddir yng Nghymru gael eu defnyddio’n gyfreithlon yn Lloegr, yn ogystal ag organau sy’n dod i Gymru o lefydd eraill.
Nid yw’n bosibl defnyddio pob organ a roddir yng Nghymru ar gyfer cleifion o Gymru, oherwydd ni fydd rhywun addas ar y rhestr bob tro. Ond bydd bod â rhagor o organau ar gael o fudd i gleifion Cymru, oherwydd efallai na fydd raid iddynt aros mor hir nes bydd organ addas ar gael.