Skip to content

Fforwm Partneriaeth Cymru

Dolenni perthnasol

Adran 25: Amser i Ffwrdd a Chyfleusterau ar gyfer Cynrychiolwyr Undebau Llafur
Datblygwyd y polisi hwn gan Fforwm Partneriaeth Cymru ac mae’n amlinellu’r egwyddorion sy’n berthnasol i reoli newidiadau sefydliadau mewnol o fewn y GIG yng Nghymru.
Rhestr Aelodaeth Strwythurol
Polisi urddas yn y gweithle ar gyfer GIG Cymru

Grŵp tridarn yw Fforwm Partneriaeth Cymru sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n cynnwys cynrychiolwyr:

  • o'r 14 undeb llafur ym maes gofal iechyd GIG Cymru;
  • cynrychiolwyr uwch reolwyr GIG Cymru; a
  • chynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad.

Prif ddiben Fforwm Partneriaeth Cymru yw datblygu, cefnogi a chyflawni polisïau'r gweithlu ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae Fforwm Partneriaeth Cymru yn rhoi arweiniad strategol i gyflogwyr a chynrychiolwyr y gweithwyr ar weithio mewn partneriaeth.

Mae hefyd yn ymwneud â phob agwedd ar weithredu strategol gan gynnwys:

  • cynllunio;
  • addysg;
  • recriwtio;
  • cadw staff;
  • datblygu; a
  • chefnogi staff GIG Cymru.