Skip to content

Is-ddeddfau enghreifftiol Cymreig ynghylch aciwbigo, tatwio, lliwio croen lled-barhaol, gwanu cosmetig ac electrolysis

Dolenni perthnasol

Is-ddeddfau enghreifftiol i’w defnyddio gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Eir ati yn y ddogfen hon i roi crynodeb o’r ymgynghoriad am yr is-ddeddfau enghreifftiol ar gyfer Cymru.

Bwriad y ddeddfwriaeth yw diogelu iechyd yn well a lleihau risg heintio.

Yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am reoleiddio ac am reoli’r busnesau hynny yn eu hardaloedd sy’n cynnig triniaethau aciwbigo, tatŵio, lliwio croen lled-barhaol, gwanu cosmetig ac electrolysis.

Darperir prif bwerau’r awdurdodau lleol yn hyn o beth o dan Adrannau 14 a 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003).

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn golygu bod awdurdodau lleol yn gallu mynnu bod busnesau sy’n cynnig triniaethau penodol yn eu cofrestru hwy eu hunain a’r mangreoedd lle maent yn gweithredu ac yn cadw at is-ddeddfau er mwyn sicrhau bod mangreoedd, gweithredwyr a chyfarpar yn lân.

Cydnabyddir bod peryglon meddygol penodol yn gysylltiedig â’r triniaethau hyn, yn benodol felly oni chaiff nodwyddau eu sterileiddio’n briodol. O’r herwydd, aeth Llywodraeth Cymru ati i ddatblygu is-ddeddfau enghreifftiol ar gyfer Cymru sy’n gwneud darpariaethau sy’n adlewyrchu’r cyngor a roddir ar hyn o bryd ynghylch rheoli heintiau ac ynghylch arferion yn y diwydiant.

Cafodd yr is-ddeddfau enghreifftiol drafft eu cyhoeddi yn 2008 at ddibenion ymgynghori â rhanddeiliaid.  

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, rydym wedi paratoi’r is-ddeddfau enghreifftiol terfynol ar gyfer Cymru. Mae adroddiad am yr ymgynghoriad ar gael, ynghyd â nodyn cyfarwyddyd sy’n amlinellu’r weithdrefn ar gyfer gwneud yr is-ddeddfau hyn a cheisio cadarnhad ar eu cyfer.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Health.Protection@wales.gsi.gov.uk