Skip to content

Heintiau sy'n gysylltiedig â'r gymuned - strategaeth gymunedol ar gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Cafodd y strategaeth hon ei datblygu i leihau nifer yr achosion yn y gymuned o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

Haint a gafwyd yn y gymuned yw unrhyw haint sydd gan gleifion pan fyddant yn mynd i'r ysbyty neu sy'n datblygu o fewn y 48 awr cyntaf yno.

Beth y mae'r term haint a gafwyd yn y gymuned yn ei olygu?

Os datblygodd yr haint o fewn y 48 awr cyntaf yn yr ysbyty cymerir yn ganiataol fod yr haint eisoes ar y claf, a'i fod wedi'i gael yn y gymuned cyn cael ei dderbyn i'r ysbyty. Mae'r cyfnod penodedig o 48 awr yn fympwyol i ryw raddau gan fod gan wahanol heintiau wahanol gyfnodau datblygu.

Eto i gyd, mae rhyw ddiffiniad safonol o ddefnydd wrth ystyried ffynonellau tebygol heintiau ac mae'r cyfnod o 48 awr wedi cael ei ddefnyddio ers sawl blwyddyn.  

Beth yr ydym yn ei wneud am heintiau sy'n gysylltiedig â'r gymuned?

Rydym yn ymwybodol o'r ffaith bod heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn bodoli mewn lleoliadau heblaw am ysbytai. O'r herwydd mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu strategaeth ar gyfer y sefydliadau sy'n darparu gofal iechyd yn y gymuned. 

Nod y strategaeth yw ceisio pennu'r camau gweithredu a'r mesurau sydd eu hangen er mwyn atal cleifion, preswylwyr ac aelodau staff rhag cael heintiau yn sgil derbyn gofal yn ein cyfleusterau gofal iechyd cymunedol. Canolbwyntia'r strategaeth ar greu a gweithredu:

  • Safonau cenedlaethol ar gyfer atal a rheoli heintiau;
  • Seilwaith a threfn;
  • Hyfforddiant ac addysg;
  • Archwilio ac arolygu;
  • Ymyriadau a datblygu dangosyddion perfformiad;
  • Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; ac
  • Iechyd galwedigaethol.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Health.Protection@Wales.gsi.gov.uk

Dolenni allanol

Gwefan y Strategaeth Gymunedol (Saesneg yn unig)