Skip to content

Brechlynnau a Chyffuriau Gwrthfeirysol

Manylion gwaith sy'n parhau i ddatblygu brechlyn, ac amlinelliad o'r gwahaniaeth rhwng brechlynnau a chyffuriau gwrthfeirysol.

Bydd y feirws a fydd yn achosi'r pandemig nesaf yn un newydd, ac felly ni fydd brechlyn yn barod i amddiffyn yn ei erbyn yn y lle cyntaf.

Cyffuriau gwrthfeirysol - pa ran y byddant yn ei chwarae

Nid yw cyffuriau gwrthfeirysol yn iacháu rhywun sy'n dioddef o'r ffliw, ac ni fyddant yn diogelu rhywun rhag dal y ffliw. Gall cyffuriau gwrthfeirysol sicrhau bod y salwch yn para llai o amser, bod y symptomau yn cael eu lleddfu, bod llai o gymhlethdodau a bod y salwch yn llai difrifol. Y gobaith yw y gallant helpu i leihau pa mor ddifrifol yw'r salwch.

Brechlynnau - datblygu brechlyn ar gyfer ffliw pandemig

Ni fydd modd datblygu brechlyn ar gyfer ffliw pandemig cyn bod y pandemig yn digwydd oherwydd bydd y feirws yn un newydd. Rhaid datblygu brechlyn newydd er mwyn amddiffyn rhag y math o feirws sy'n benodol i'r pandemig. Gallai'r broses hon gymryd tua chwe mis.