Skip to content

Heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd

Mae'r adran hon yn ymdrin â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac mae'n cynnwys gwybodaeth am rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.

Mae cleifion yn mynd i'r ysbyty un ai oherwydd eu bod yn sâl neu oherwydd bod angen llawdriniaeth arnynt. Mae salwch a llawdriniaeth yn effeithio'n uniongyrchol ar y system imiwnedd ac o'r herwydd mae cleifion o'r fath yn wynebu risg uwch o haint.  

Beth yw Haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd?

Defnyddir y term haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd i gyfeirio at heintiau sy'n deillio o gyswllt â'r system gofal iechyd yn ei ystyr ehangach - o ofal a ddarperir yn eich cartref i feddygfeydd, gofal mewn cartrefi nyrsio a gofal mewn ysbytai aciwt. Cafodd y term ei fathu'n ddiweddar er mwyn cydnabod y ffaith yr ymgymerir â thriniaethau mwyfwy cymhleth y tu allan i ysbytai.  

Beth y mae'r term haint a gafwyd yn yr ysbyty yn ei olygu?

Mae diffiniad pendant i'r term haint a gafwyd yn yr ysbyty (a adwaenir hefyd fel haint nosocomial). Mae'n cyfeirio at haint sy'n datblygu mewn cleifion 48 awr neu fwy ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r ysbyty. Bernir bod heintiau sy'n datblygu o fewn y 48 awr cyntaf wedi deillio o'r gymuned a'u bod yn datblygu cyn i'r claf gael ei dderbyn i'r ysbyty. Cyfeirir at y rhain fel heintiau a gafwyd yn y gymuned.  

Mae'r rhan fwyaf o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn deillio o ficroflora cleifion. Yn wir, mae Staphylococcus Aureus i'w gael ar groen neu yn nhrwynau tua 30% o bobl. Mae rhai straeniau o Staphylococcus Aureus wedi datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau. Y straen mwyaf cyffredin yw Staffylococws awrëws sy'n gwrthsefyll Methisilin (MRSA). Ni fydd MRSA yn achosi problem i'r rhan fwyaf o gleifion oherwydd mae'n rhan o'r flora arferol a geir ar y croen.  

Heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd – Strategaeth ar gyfer Ysbytai yng Nghymru

Cyhoeddwyd strategaeth gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn 2004. Datblygwyd y strategaeth er mwyn hwyluso'r gwaith o leihau nifer yr achosion o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yng Nghymru a phwysleisio cyfrifoldebau pob gweithiwr gofal iechyd o safbwynt lleihau yr heintiau hyn.  

Rydym bellach yn bwriadu adnewyddu'r strategaeth mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad.

Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru eu hadroddiad sef 'Lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd mewn ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru' ar 8 Tachwedd 2007. Disgrifiodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol o fewn Ymddiriedolaethau'r GIG o safbwynt cyfraddau'r heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a'r camau y mae'r Ymddiriedolaethau wedi'u cyflwyno er mwyn rheoli risg heintiau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i'w hystyried gan Ymddiriedolaethau'r GIG, Llywodraeth y Cynulliad a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys lleihau cyfraddau'r heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd o fewn ysbytai Cymru.

Bu Pwyllgor Archwilio Llywodraeth Cymru yn craffu ar adroddiad Swyddfa Cymru ar 7 Chwefror 2008. Yn dilyn ei sesiwn lle cyflwynid tystiolaeth cyflwynodd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei adroddiad ei hun i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 7 Mai 2008.

Ewch i: Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (dolen allanol)

Ymatebodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar 17 Mehefin 2008 a derbyniodd argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Archwilio.   

Ewch i: Adroddiad Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cymru (dolen allanol)