Skip to content

Yr Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd

Dolenni perthnasol

Daw Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 i rym ddydd Llun 31 Hydref 2011, gan gyflwyno rhagor o reoliadau ynghylch defnyddio gwelyau haul yng Nghymru.
Mae'r cynllun hwn yn pennu pedair blaenoriaeth ranbarthol.
Mae amdiffyn a gwella amgylchedd Cymru yn bwysig iawn i ni.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisïau er mwyn ymateb i fygythiadau amgylcheddol a pheryglon iechyd, gan gynnwys cemegion ac ymbelydredd.

Newid Hinsawdd ac Iechyd

Mae'r effeithiau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd yn fygythiad sylweddol a chynyddol i iechyd a lles y cyhoedd yng Nghymru.

Tywydd poeth

Mae cynllun tywydd poeth i Gymru wedi cael ei ddatblygu, ac mae'n cynnwys canllawiau ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol ar amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag effeithiau gwres.

Ymbelydredd ac Iechyd

Mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau’r peryglon i iechyd y gall ymbelydredd ïoneiddio ac ymbelydredd nad yw’n ïoneiddio ei achosi.

Gallai hyn gynnwys nwy radon, meysydd electromagnetig, goleuni'r haul (ymbelydredd UV), dyfeisiau lliw haul artiffisial ac amleddau radio.

Carbon monocsid

Mae carbon monocsid yn y cartref yn gyfrifol am nifer sylweddol o farwolaethau bob blwyddyn ac am lawer mwy o achosion o wenwyno nad ydynt yn farwol.