Skip to content

Cyflwyno Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Gorfodol

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen ymgynghori’n egluro beth rydyn ni’n ystyried y dylai’r Bil ei gynnwys ac yn gofyn am sylwadau ar y cynigion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei bwriad i gyflwyno cyfraith newydd sy’n gorfodi busnesau bwyd fel bwytai, siopau tecawê ac archfarchnadoedd i arddangos sgôr hylendid ar eu safle.

Bydd yn cyhoeddi cynigion ar gyfer Bil drafft er mwyn cynnal ymgynghoriad arnynt.

Nod y Bil yw:

  • rhoi mwy o wybodaeth i’r cyhoedd am safleoedd lle maen nhw’n bwyta neu’n prynu bwyd
  • a chodi safonau hylendid busnesau.

Bydd hynny’n helpu i ddiogelu iechyd pobl trwy leihau nifer yr achosion o glefydau sy’n cael eu cario mewn bwyd.

Mae cyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd gorfodol yn un o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu, a hwn fydd y cynllun gorfodol cyntaf ym Mhrydain.

Y Cynllun

O dan y cynllun, bydd busnesau’n cael sgôr rhwng 0 a 5. Mae 0 yn golygu  bod angen gwella ar frys a 5 yn golygu bod y safonau hylendid yn dda iawn.

Bydd yn sgôr yn seiliedig ar feini prawf sy’n cynnwys safonau trafod bwyd - fel sut mae’r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei oeri a’i gadw - a chyflwr y safle.  

Bydd yn rhaid i fusnesau arddangos eu sgôr mewn man amlwg, fel ar ddrws y fynedfa, neu byddan nhw’n wynebu cael dirwy. Cyhoeddir y sgoriau ar-lein.

Disgwylir na fydd y cynllun gorfodol ar waith cyn 2014, gyda’r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio cyn hynny fel y bydd digon o amser i fusnesau ymbaratoi.

Gwirfoddol

Fel sy’n digwydd gyda’r cynllun gwirfoddol presennol, bydd mynychder yr arolygiadau’n cael ei seilio ar asesiad o’r risg i’r defnyddiwr, er enghraifft y math o fusnes bwyd, natur y bwyd a maint y busnes.

Caiff busnesau wneud cais am arolygiad ailsgorio, a byddan nhw hefyd yn cael apelio yn erbyn eu sgôr os ydyn nhw’n meddwl ei bod yn annheg.  

O dan y ddeddfwriaeth, byddai hysbysiadau cosb benodedig o £200 yn cael eu cyflwyno ar gyfer tramgwyddau fel peidio ag arddangos sgôr, gyda disgownt os bydd busnes yn talu’n gynnar. Hefyd, byddai pwerau i erlyn busnesau. £1000 fyddai uchafswm y ddirwy.

Bydd cymorth ar gael i helpu busnesau i wella’u sgoriau. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau i sicrhau bod arian ar gael i awdurdodau lleol Cymru allu ymweld â busnesau bwyd i’w cynghori ar sut i wella eu sgôr hylendid.