Skip to content

Taflen a phosteri gwelyau haul

Dolenni perthnasol

Daw Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 i rym ddydd Llun 31 Hydref 2011, gan gyflwyno rhagor o reoliadau ynghylch defnyddio gwelyau haul yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau safleoedd busnesau gwelyau haul masnachol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwybodaeth iechyd i gydymffurfio â Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011.

O ddydd Llun 31 Hydref 2011, bydd Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gwelyau haul ddarparu copi o’r daflen i bob cwsmer, ac arddangos y poster ar waliau’r safle.

Mae nifer cyfyngedig o’r posteri A2 a’r taflenni ar gael gan awdurdodau lleol. Gellir lawrlwytho copïau ychwanegol o’r safle hwn.

Rhaid argraffu’r posteri ar bapur neu gerdyn o faint A3 neu fwy.

Mae modd cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn mewn ieithoedd eraill. I wneud cais, e-bost: health.protection@wales.gsi.gov.uk neu ffon 029 2080 1061.