Skip to content

Imiwneiddio oedolion

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth ddefnyddiol am symptomau llid yr ymennydd a gwenwyniad gwaed.
Mae'r daflen hon yn disgrifio'r arwyddion a'r symptomau i chwilio amdanynt a sut i gael y brechlyn MenC.
Mae’r daflen hon yn annog y bobl sydd dros 65 oed i gael eu pigiad niwmonia, i’w helpu nhw i amddiffyn eu hunain rhag afiechyd niwmococol.

Nid oes rhaglen benodol ar gyfer imiwneiddio oedolion yn rheolaidd.

Gall swyddi rhai pobl neu eu ffordd o fwy roi pobl mewn perygl o ddal clefydau penodol.  Mae'n ddigon posibl bod brechiadau ar gael ar gyfer y bobl hyn.

Gallwch gysylltu â'ch Meddyg Teulu neu Galw Iechyd Cymru i gael cyngor o ran risgiau penodol ac a oes angen brechiadau arnoch.

I bobl sydd â chyflyrau meddygol penodol neu sydd dros 65 oed mae rhaglen imiwneiddio ddi-dâl yn erbyn y ffliw a chlefyd niwmococws ar gael.  Mae'r cyflyrau meddygol penodol hyn yn cynnwys y canlynol:
  • cyflwr cronig ar y frest, (mae hyn yn cynnwys asthma
    pan fo'n ddigon difrifol bod angen meddyginiaeth arno);
  • cyflwr cronig ar y galon;
  • diabetes;
  • cyflwr cronig ar yr aren;
  • cyflwr cronig ar yr afu/iau;
  • cyflwr niwrolegol cronig (gan gynnwys strôc ac MS);
  • imiwnedd is o ganlyniad i glefyd neu driniaeth, fel steroidau neu
    therapi canser;
  • ambell gyflwr meddygol difrifol arall, gofynnwch i’ch meddyg
    os ydych yn ansicr.

Y grwpiau hyn sydd fwyaf tebygol o ddioddef salwch difrifol o ganlyniad i'r clefydau hyn.

Ewch i Imiwneiddio GIG(dolen allanol, Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth.