Skip to content

Imiwneiddio plant

Dau baban yn edrych ar llyfr

Imiwneiddio yw un o'r ffyrdd gorau o ddiogelu'ch plentyn rhag nifer o glefydau heintus.

Cyn i frechlynnau fod ar gael, roedd y clefydau hyn yn achosi salwch difrifol ac weithiau marwolaeth.

Mae babanod yn cael eu geni gydag imiwnedd naturiol i rai glefydau penodol. Mae gwrthgorffynnau sy'n ymladd clefydau yn teithio drwy'r brych at y babi yn y groth. Ar ôl geni, mae'r babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn derbyn gwrthgorffynnau ychwanegol drwy laeth y fron.

Ond imiwnedd dros dro yn unig a geir yn y ddau achos. Heb dderbyn brechiadau bydd babanod a phlant yn parhau mewn perygl o ddal y clefydau difrifol hyn.

Mae'r rhaglen imiwneiddio plant yn rheolaidd yn diogelu plant rhag deg clefyd y mae modd eu hatal:

  • polio;
  • difftheria;
  • tetanws;
  • y pâs;
  • hib;
  • llid yr ymennydd C;
  • niwmococws;
  • y frech goch;
  • clwy'r pennau; a
  • rwbela.

Yn aml mae angen cyfres o frechiadau er mwyn sicrhau fod y plentyn wedi'i ddiogelu'n llwyr. Os na fydd plentyn yn derbyn y gyfres lawn o frechiadau, ni fydd wedi'i ddiogelu'n llwyr.

Efallai y bydd gan rai plant nam ar y system imiwnedd - o ganlyniad i salwch neu driniaeth - felly bydd angen iddynt hwy hefyd gael triniaeth yn erbyn clefydau, megis y ffliw a hepatitis B.

Ewch i Imiwneiddio GIG (dolen allanol, Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth.

Pam imiwneiddio plant yn erbyn y clefydau hyn?

Mae nifer o'r clefydau hyn yn parhau i ladd. Er enghraifft, mae mwy na miliwn o blant ledled y byd yn marw o'r frech goch bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt mewn gwledydd sy'n datblygu. Diolch i'r brechiadau hyn, nid yw'r clefydau hyn mor amlwg ag yr oeddent yn y gorffennol. Ond, maent yn parhau i fod yr un mor beryglus.

Rydym yn gwybod y bydd y clefydau hyn yn dychwelyd os na fydd y cyfraddau imiwneiddio yn cynyddu'n sylweddol. Hyd yn oed mewn gweledydd sydd wedi datblygu lle mae safonau uchel o ran hylendid a gofal iechyd, byddai'r clefydau hyn yn achosi epidemig pe bai'r rhaglen imiwneiddio yn dod i ben.