Skip to content

Curo canser ceg y groth

Dolenni perthnasol

Eich arweiniad i’r brechiad HPV.
Bydd yr Adran Iechyd nawr yn darparu’r brechlyn Gardasil® rhag y firws papiloma dynol (HPV) fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio HPV genedlaethol.
Hybu iechyd da drwy gydol eich oes.

Caiff pob merch ym Mlwyddyn 8 yn yr ysgol wahoddiad i gael pigiad rhag y feirws papiloma dynol (HPV).

Mam a ferchYm mis Medi 2008, cafodd brechiad newydd ei gyflwyno i amddiffyn merched a menywod ifanc rhag y mathau mwyaf cyffredin o ganser ceg y groth pan fyddant yn hŷn.

Cafodd y brechlyn papiloma dynol (HPV) ei ychwanegu at y rhestr arferol o frechiadau plant ar gyfer pob merch sydd ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol.

Y Feirws Papiloma Dynol (HPV) sy’n gyfrifol am 99% o achosion o ganser ceg y groth.  Mae’r brechlyn yn diogelu rhag y feirysau sy’n gyfrifol am tua 70% o achosion. Yng Nghymru mae tua 170 achos newydd o ganser ceg y groth bob blwyddyn.