Skip to content

Beth yw imiwneiddio?

Imiwneiddio yw'r ffordd o greu imiwnedd i rai clefydau penodol.

Wrth imiwneiddio defnyddir brechiadau sy'n cynnwys antigenau eithaf diniwed (molecylau) sy'n dod o'r micro-organebau, neu sy'n debyg iddynt, sy'n achosi'r clefydau. Gall micro-organebau fod yn feirysau, fel y frech goch, neu gallant fod yn facteria, fel twbercwlosis.

Mae brechiadau yn ysgogi'r system imiwnedd i ymateb fel pe bai gennych haint go iawn yna, mae'r system imiwnedd yn ymladd yr haint hwn ac yn cofio'r organeb fel y gall ei ymladd yn gyflym, os bydd yn dod ar ei draws eto.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyffuriau, rhoddir brechiadau i bobl iach er mwyn eu diogelu hwy, a'r boblogaeth at ei gilydd, rhag clefydau. Mae cyfraddau imiwneiddio isel a chlefydau yn fygythiad sylweddol i iechyd y bobl hynny sydd heb eu diogelu ac sy'n parhau heb imiwnedd.

Ar ôl dŵr glân, brechu yw'r ymyrraeth iechyd cyhoeddus mwyaf effeithiol yn y byd ar gyfer achub bywydau a hyrwyddo iechyd da. Mae'r term Saesneg am frechu, vaccination yn deillio o'r drefn wreiddiol a ddefnyddiwyd i ddiogelu pobl gyda'r brechiad cyntaf yn erbyn y frech wen, sef vaccinia.

Ewch i wefan Galw Iechid Cymru i gael rhagor o wybodaeth.