Skip to content

Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Clefyd y Galon

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhoi sylfaen ar gyfer cynllunio a datblygu gwasanaethau ar gyfer atal a thrin clefyd y galon.

Dyma fersiwn lawn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru ar gyfer Clefyd y Galon. Mae’n cymryd lle’r fersiwn dros dro sydd ar hyn o bryd ar wefan Rhwydweithiau’r Galon (dolen allanol)

Cyhoeddwyd Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol (NSF) Cymru ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon Mynd i’r Afael â Chlefyd Coronaidd y Galon yng Nghymru: gweithredu trwy dystiolaeth gyntaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2001.

Ers hynny, mae Cynllun Oes, Adolygiad o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, Bwletin Tystiolaeth Iechyd Cymru: Clefyd Coronaidd y Galon a thystiolaeth wyddonol arall ar atal a thrin clefyd y galon wedi cael eu cyhoeddi.

Hefyd, mae Cymru wedi dysgu o’i phrofiad o weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol. O ganlyniad, mae’n amserol bellach i Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Clefyd Coronaidd y Galon i gael ei ddiweddaru a’i gyhoeddi fel yr NSF ar gyfer Clefyd y Galon.

Mae hwn wedi cael ei ddatblygu gyda chyfranogiad sylweddol grwpiau ac unigolion â diddordeb ac mae’n cynnwys saith Safon yn ymwneud ag atal a thrin clefyd y galon. Diben pennaf Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yw gwella canlyniadau iechyd.

Mae’r NSF hwn yn ystyried y dystiolaeth wyddonol a chlinigol ddiweddaraf ac felly’n rhoi sylfaen diweddar ar gyfer cynllunio a datblygu gwasanaethau ar gyfer atal a thrin clefyd y galon.