Skip to content

Hanfodion Gofal

Gwella ansawdd agweddau sylfaenol ar iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion

Y mae Hanfodion Gofal yn un o gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chaiff ei gynnwys yn y Cynllun ar gyfer Cymru fel rhan o’r broses o “Wella Gwasanaethau Iechyd a Gofal”.

Deilliodd y cynllun o’r canlynol:

  • Anghysondebau o safbwynt ansawdd ledled lleoliadau ac ardaloedd y gwasanaethau.
  • Y pwyslais, tan yn ddiweddar, ar effeithlonrwydd a chost y gwasanaethau, yn hytrach nag ar ansawdd y gofal.
  • Themâu cyffredin o ran cwynion a chanmoliaeth.
  • Disgwyliadau cynyddol ymysg defnyddwyr gwasanaeth.
  • Meithrin partneriaethau gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhwng sefydliadau.
  • Diffyg eglurder i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr hyn y dylent ei ddisgwyl.
  • Mwy o ffocws ar reoleiddio a pherfformiad.
  • Ymwybyddiaeth o Essence of Care, Yr Adran Iechyd, 2001.

Y mae Hanfodion Gofal, felly, yn anelu at wella ansawdd yr agweddau ar iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion.

Caiff y dangosyddion hyn eu hintegreiddio gyda fframweithiau addysgol, comisiynu a rheoli perfformiad ar gyfer y GIG, y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Arolygiaeth Safonau Gofal, fel ag y bo’n briodol. Y maent, felly, yn adlewyrchu dull integredig o weithredu ar sail systemau cyfan, gan eu gwneud yn berthnasol i amgylcheddau aml-ddisgyblaethol sy’n croesi ffiniau’r gwahanol sefydliadau.