Anhwylderau Bwyta: Fframwaith ar gyfer Cymru
Cynhaliwyd proses ymgynghori ar y fframwaith yn gynharach eleni a bellach mae’r ddogfen derfynol ‘Anhwylderau Bwyta: Fframwaith ar gyfer Cymru’ wedi’i chyhoeddi.
Yn 2008, cyhoeddodd Edwina Hart AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, werth £0.5 miliwn o gyllid newydd yn 2009/10 a fydd yn cynyddu i £1.0 miliwn (rheolaidd) o 2010/11 ymlaen ar gyfer gwella gwasanaethau Anhwylderau Bwyta yng Nghymru.
Er mwyn helpu’r broses o ddatblygu gwasanaethau anhwylderau bwyta ymhellach gofynnodd y Gweinidog i Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru lunio fframwaith newydd ar gyfer anhwylderau bwyta. Cynhaliwyd proses ymgynghori ar y fframwaith yn gynharach eleni a bellach mae’r ddogfen derfynol ‘Anhwylderau Bwyta: Fframwaith ar gyfer Cymru’ wedi’i chyhoeddi.
Mae Cadeiryddion y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG wedi derbyn copi o’r fframwaith er mwyn ei roi ar waith.
Dolenni perthnasol
Cyngor technegol oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (NPHS) i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
