Skip to content

Gweithredu rheoliadau ffioedd ysbyty ymwelwyr tramor

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Canllawiau i bobl nad ydynt yn breswylwyr yn y DU sydd angen triniaeth gan Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru.

Mae’r rheoliadau ffioedd yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar Ymddiriedolaethau GIG i ganfod a yw ymwelwyr tramor yn preswylio yn y DU fel arfer. Os nad ydynt, mae’n bosibl y bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer gwasanaethau’r GIG a ddarparwyd. Yn yr achosion hynny, rhaid i’r Ymddiriedolaeth godi tâl ar y person sy’n atebol am gost y gwasanaethau (y claf fel arfer).

Yn y pen draw, bydd y penderfyniad i godi tâl ai peidio yn dibynnu ar yr Ymddiriedolaeth sy’n darparu’r driniaeth. Mewn rhai achosion, os bydd amgylchiadau’r claf yn aneglur neu yr ymddengys nad ymdrinnir â nhw yn y Rheoliadau neu’r canllawiau, mae’n bosibl y bydd angen i Ymddiriedolaethau gymryd cyngor cyfreithiol.

Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy ar neu dros y ffôn ar 029 20823773.

Mae’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael hefyd ar wefan yr Adran Iechyd