Skip to content

Safonau Ansawdd ar gyfer Clywedeg Pediatrig (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Lansiwyd Safonau Ansawdd ar gyfer Clywedeg Pediatrig (Cymru) ar Fawrth 24ain 2010

Bydd y safonau yma’n gosod yr agenda ar gyfer darparu gwasanaethau Clywedeg i blant a phobl ifanc ar draws Cymru, gan adeiladu ar y gwaith cydweithredol a gafwyd eisoes rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban.

Maen nhw wedi cael eu cryfhau o ganlyniad i ymgynghori trylwyr gyda’r cyhoedd a’r proffesiynau ac fe fyddan nhw’n grymuso timau amlddisgyblaethol wrth iddyn nhw weithio i wella’n barhaol ansawdd y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig.